Billy Elliot (ffilm)
Mae Billy Elliot (2000) yn ffilm a ysgrifennwyd gan Lee Hall ac a gyfarwyddwyd gan Stephen Daldry. Lleolir y ddrama yn nhref ffuglennol 'Everington' yn Swydd Durham, DU ac mae'n serennu Jamie Bell fel bachgen 11 oed o'r enw Billy. Ei freuddwyd yw i fod yn ddawnsiwr a chaiff ei hyfforddi gan ei athrawes ballet a chwaraeir gan Julie Walters. Mae dad, a chwaraeir gan Gary Lewis yn gweithio yn y pyllau glo a chwarae Jamie Draven rhan brawd hŷn Billy. Yn 2001, comisiynnwyd yr awdur Melvin Burgess i ysgrifennu nofel o'r ffilm yn seiliedig ar sgript Lee Hall. Addaswyd y stori ar gyfer sioe gerdd yn y West End o'r enw Billy Elliot the Musical yn 2005; agorodd y sioe ar Broadway yn 2008 ac yn Awstralia yn 2007.
Cast
golygu- Jamie Bell fel Billy Elliot
- Julie Walters fel Mrs. Wilkinson
- Gary Lewis fel Jackie Elliot
- Jamie Draven fel Tony Elliot
- Jean Heywood fel Grandma Elliot
- Janine Birkett fel Mrs. Elliot
- Stuart Wells fel Michael Caffrey
- Mike Elliott fel George Watson
- Billy Fane fel Mr. Braithwaite
- Nicola Blackwell fel Debbie Wilkinson
- Colin MacLachlan fel Mr. Tom Wilkinson
- Adam Cooper fel Billy Elliot, 25 oed
- Merryn Owen fel Michael Caffrey, 25 oed
Gwobrau ac Enwebiadau
golyguEnwebwyd y ffilm ac enillodd wobrau ledled y byd gan gynnwys y canlynol.
2000
golygu- Enillodd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Ffilm Annibynnol Prydeinig Gorau
- Enillodd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Cyfarwyddwr Groau - Stephen Daldry
- Enillodd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Newydd-ddyfodiad Gorau - Jamie Bell
- Enillodd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Y Sgript Orau
- Enwebwyd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Yr Actores Orau - Julie Walters
- Enillodd - Propeller of Motovun, Croatia
2001
golygu- Enwebwyd - Gwobrau'r Academi, UDA - Actores Orau mewn Rôl Gefnogol - Julie Walters
- Enwebwyd - Gwobrau'r Academi, UDA - Cyfarwyddwr Gorau - Stephen Daldry
- Enwebwyd - Gwobrau'r Academi, UDA - Ysgrifennwr Gorau mewn Sgript a Ysgrifennwyd yn Arbennig ar gyfer y Sgrîn - Lee Hall
- Enillodd - Gwobrau Amanda, Norwy - Ffilm Dramor Orau
- Enwebwyd - Golygyddion Sinema Americanaidd, UDA - Ffilm Ddramatig a Olygwyd Orau - John Wilson
- Enwebwyd - Gwobrau Angel, - Ffilm Orau
- Enwebwyd - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Celf - Ffilm
- Enwebwyd - Cymdeithas Ffilm Australia, - Ffilm Dramor Orau
- Enillodd - Gwobrau BAFTA, - Gwobr Alexander Korda am y Ffilm Brydeinig Orau
- Enillodd - Gwobrau BAFTA, - Perfformiad Gorau gan Actor mewn Prif Ran - Jamie Bell
- Enillodd - Gwobrau BAFTA, - Perfformiad Gorau gan Actor mewn Rôl Gefnogol - Julie Walters
- Enillodd - Gwobrau London Critics Circle Film - Actores Brydeinig y Flwyddyn - Julie Walters
Yn 2004, enwodd y cylchgrawn Total Film Billy Elliot fel y 39fed ffilm Prydeinig orau erioed.
Caneuon i Gyd-fynd â'r ffilm
golyguMae'r albwm sy'n cyd-fynd â'r ffilm yn cynnwys nifer o ganeuon roc adnabyddus:
- "Cosmic Dancer" - T. Rex
- "Get It On (Bang a Gong)" - T. Rex
- "Town Called Malice" - The Jam
- "I Love to Boogie" - T. Rex
- "London Calling" - The Clash
- "Children of the Revolution" - T. Rex
- "Shout to the Top" - The Style Council
- "Walls Come Tumbling Down" - The Style Council
- "Ride a White Swan" - T. Rex
- "Burning Up" - Eagle Eye Cherry