Bioleg datblygiad
Maes o fewn Bywydeg yw bioleg datblygiad sy'n edrych ar sut mae anifeiliaid a phlanhigion yn tyfu a datblygu. Mae'r maes hefyd yn cynnwys yr astudiaeth o aildyfiant, atgynhyrchu anrhywiol, metamorffosis, twf a gwahaniaethiad celloedd mewn organebau.
Delwedd:De Lisle Psalter Rad des Lebens stages of life British Library.jpg, Bourgery - Traité d'anatomie - Frontispice.jpg, 11-stages-womanhood-1840s.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | cangen o fywydeg |
---|---|
Math | bywydeg |
Yn cynnwys | morphogenesis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Safbwyntiau
golyguY prif brosesau sy'n cymryd rhan yn natblygiad embryonig anifeiliaid yw: rhagnodi rhanbarthol, morffogenesis, gwahaniaethu gan gelloedd, twf, a rheolaeth gyffredinol o amseru. Mae rhagnodi rhanbarthol yn cyfeirio at y prosesau sy'n creu'r patrwm gofodol a geir mewn pelen neu daflen o gelloedd sydd yr un fath cyn datblygu. Dyw camau cyntaf rhagnodi rhanbarthol ddim yn creu celloedd â gwahaniaethau gweithredol, ond yn hytrach creir poblogaethau o gelloedd wedi ymrwymo i ffurfio rhan penodol o'r organeb. Mae'r rhain yn cael eu diffinio gan gyfuniadau o ffactorau trawsgrifio penodol yn cael eu troi ymlaen. Mae morffogenesis yn ymwneud â sut mae siapau tri-dimensiwn yn cael eu ffurfio. Mae'n cynnwys y trefniant a geir mewn symudiadau celloedd yn unigol ac mewn taflenni. Mae'n bwysig ar gyfer creu tri haen germ cynnar yr embryo (yr ectoderm, y mesoderm a'r endoderm) ac ar gyfer adeiladu strwythurau cymhleth yn ystod datblygiad organau. Mae gwahaniaethu gan gelloedd yn cyfeirio'n benodol at sut ffurfir celloedd arbennigol megis mewn nerfau, cyhyrau, chwarennau ac ati. Mewn celloedd sydd wedi gwahaniaethu, gwelir proteinau penodol sy'n gysylltiedig â swyddogaeth y gell. Mae twf yn cynnwys cynnydd cyffredinol o ran maint, a hefyd y gwahaniaeth mewn twf rhwng rhannau gwahanol or organeb sy'n cyfrannu at forffogenesis. Mae'n digwydd yn bennaf drwy gellraniad ond hefyd drwy newidiadau ym maint celloedd, ac yn neddodiad deunyddiau y tu allan i'r gell. Yr rhan o'r maes y deallir y lleiaf amdano yw'r astudiaeth o sut mae amseriad digwyddiadau a phrosesau yn cael ei reoli. Mae'n dal yn aneglur os oes gan ebryonau ddull o reoli amser ar draws eu celloedd neu beidio.
Mae planhigion yn defnyddio prosesau tebyg i anifeiliaid tra'n datblygu. Un gwahaniaeth mawr yw analluedd y rhan fwyaf o gelloedd mewn planhigion i symud. Mae morffogenesis mewn planhigion, felly, yn digwydd drwy wahaniaethau mewn twf yn hytrach na symudiadau gan gelloedd. Ceir hefyd sbardunau a genynnau gwahanol mewn planhigion i ysgogi datblygiad o'u cymharu ag anifeiliaid.
Anatomeg · Biocemeg · Bioffiseg · Botaneg · Bioleg cell · Bioleg cadwraeth · Bioleg datblygiad · Ecoleg · Epidemioleg · Bioleg esblygiadol · Geneteg · Genomeg · Bioleg dynol · Imiwnoleg · Bioleg morol · Microbioleg · Bioleg foleciwlaidd · Paleontoleg · Patholeg · Ffisioleg · Bioleg systemau · Swoleg