Birgitta Trotzig
Awdures o Sweden oedd Birgitta Trotzig (11 Medi 1929 - 14 Mai 2011) a oedd yn feirniad llenyddol, bardd|fardd]] ac yn awdur ysgrifau. Roedd yn un o awduron mwyaf poblogaidd ei chenhedlaeth.[1][2][3]
Birgitta Trotzig | |
---|---|
Ganwyd | Astri Birgitta Kjellén 11 Medi 1929 Göteborg |
Bu farw | 14 Mai 2011 Lund |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | llenor, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau, bardd |
Swydd | seat 6 of the Swedish Academy |
Tad | Oscar Kjellén |
Mam | Astri Rodhe |
Priod | Ulf Trotzig |
Gwobr/au | Gwobr Selma Lagerlöf, Gwobr Dobloug, Medal Diwylliant ac Addysg, Gwobr Aftonbladet am lenyddiaeth, Gwobr Aniara, Prif Gwobr Samfundet De Ni, Gwobr Kellgren, Gwobr Övralid, Sveriges Radio's Poetry Prize, Gerard Bonnier Poetry Award |
Fe'i ganed yn Göteborg, ail ddinas fwyaf poblog Sweden a bu farw yn Lund, Scania yn ne Sweden ac fe'i claddwyd yno ym Mynwent Norra.[4][5][6][7][8][9][10]
Magwraeth
golyguGanwyd Trotzig yn unig blentyn, gyda'r teulu'n byw i ddechrau gyda'i neiniau a theidiau o ochr ei mam, yn Gothenburg, gan symud yn ddiweddarach i ddinas fach ddeheuol Kristianstad, lle'r oedd rhieni ei rhieni yn gweithio fel athrawon. Graddiodd o'r ysgol ramadeg / ysgol uwchradd ym 1948.[11] Dychwelodd Trotzig i Gothenburg ac astudiodd hanes llenyddol.[12]
Priodi a gwaith
golyguPriododd yr arlunydd a cherflunydd Ulf Trotzig[13] a bu'r ddau yn byw ym Mharis rhwng 1955 a 1969[14]. Yn ystod y cyfnod hwn, trodd i fod yn aelod o'r Eglwys Gatholig a thrwy hyn, cafodd fynediad i wahanol agweddau ar ddiwylliant Ffrengig ac at gyfriniaeth Gristnogol ac Iddewig; magodd ddiddordeb yn San Juan de la Cruz a Pierre Teilhard de Chardin.[12]
Derbyniodd Birgitta Trotzig lawer o wobrau llenyddol, gan gynnwys y Wobr Övralid yn 1997. Roedd Birgitta Trotzig yn byw yn Lund ac yn parhau i fod yn weithgar ym mywyd cyhoeddus a chyda phrosiectau amrywiol o fewn Academi Sweden am lawer o'i hoes.[12]
Ar 15 Mai 2011, cyhoeddodd Peter Englund fod Birgitta wedi marw y dywrnod cynt, wedi salwch hir.[15]
Cyhoeddiadau
golyguFfuglen
golygu- Ur de älskandes liv (Stockholm: Bonnier, 1951, "From the Life of Those Who Love")
- Bilder (Stockholm: Bonnier, 1954)
- De utsatta: En legend (Stockholm: Bonnier, 1957, "The Exposed")
- Ett landskap: Dagbok, fragment 54-58 (Stockholm: Bonnier, 1959)
- En berättelse från kusten (1961, "A Tale from the Coast")
- Utkast och förslag (Helsinki: Söderström, 1962; Stockholm: Bonnier, 1962)
- Levande och döda: Tre berättelser (Helsinki: Söderström, 1964; Stockholm: Bonnier, 1964)
- Sveket (Stockholm: Bonnier, 1966)
- Ordgränser (Stockholm: Bonnier, 1968)
- Teresa (Stockholm: Bonnier, 1969)
- Sjukdomen (Stockholm: Bonnier, 1972)
- I kejsarens tid: Sagor (Stockholm: Bonnier, 1975, "In the Time of the Emperor")
- Berättelser (Stockholm: Bonnier, 1977, "Stories")
- Jaget och världen (Stockholm: Författarförlaget, 1977)
- Anima: Prosadikter (Stockholm: Bonnier, 1982)
- Dykungens dotter: En barnhistoria (Stockholm: Bonnier, 1985)
- Porträtt: Ur tidshistorien (Stockholm: Bonnier, 1993)
- Sammanhang: Material (Stockholm: Bonnier, 1996)
- Dubbelheten: tre sagor (Stockholm: Bonnier, 1998, "Doubleness: Three Tales")
- Gösta Oswald (Stockholm: Norstedt, 2000)
Ysgrifau
golygu- Utkast och förslag (1962, "Sketches and Ideas")
- Jaget och världen (1977, "The Ego and the World")
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Swedeg (1993) a Chymdeithas y Naw am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Selma Lagerlöf (1984), Gwobr Dobloug (1970), Medal Diwylliant ac Addysg (2004), Gwobr Aftonbladet am lenyddiaeth (1961), Gwobr Aniara (1981), Prif Gwobr Samfundet De Ni (1963), Gwobr Kellgren (1991), Gwobr Övralid (1997), Sveriges Radio's Poetry Prize (2007), Gerard Bonnier Poetry Award (1983) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Forsås-Scott, Helena (1997). Swedish women's writing, 1850-1995. London, United Kingdom: Continuum International Publishing Group. tt. 149–169. ISBN 978-0-485-92003-1.
- ↑ Peter Englund: Birgitta Trotzig död Archifwyd 2012-10-18 yn y Peiriant Wayback, Dagens Nyheter 15 Mai 2011
- ↑ Arnald, Jan; Trans. Tim Crosfield. "Chair no. 6 – Birgitta Trotzig". The Swedish Academy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2010. Cyrchwyd 15 Chwefror 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_375. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022. "Norra kyrkogården Lund Sydvästra delen Birgitta Trotzig". Cyrchwyd 16 Hydref 2023.
- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Birgitta Trotzig". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Birgitta Trotzig". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Birgitta Trotzig". ffeil awdurdod y BnF. "Birgitta Trotzig". "Birgitta Trotzig". "Birgitta Trotzig".
- ↑ Dyddiad marw: http://sverigesradio.se/sida/artikel.aspx?programid=2054&artikel=4505694.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
- ↑ Man claddu: "Trotzig, Astri Birgitta". Cyrchwyd 16 Hydref 2023. "Norra kyrkogården Lund Sydvästra delen Birgitta Trotzig". Cyrchwyd 16 Hydref 2023.
- ↑ Projekt Runeberg: Vem är det: Svensk biografisk handbok 1993
- ↑ 12.0 12.1 12.2 Sondrup, Steven P. (2002). Ann-Charlotte Gavel Adams (gol.). Dictionary of Literary Biography. 257: Twentieth-Century Swedish Writers After World War II. The Gale Group. tt. 291–96.
- ↑ Sondrup, Steven (22 Medi 2000). Birgitta Trotzig and the Language of Religious and Literary Experience.. Scandanivian Studies.
- ↑ "Birgitta Trotzig". Encyclopædia Britannica. 2010.
- ↑ Förlust, blog swyddogol Peter Englund, 15 Mai 2011, adalwyd 15 Mai 2011