Teulu o ddyfeisiau e-bost symudol a ffonau clyfar yw BlackBerry (neu'r Fiaren fel y caiff ei hadnabod ar lafar), a ddatblygwyd ac a gynlluniwyd gan gwmni o Ganada, sef Research In Motion (RIM) ers 1999.

BlackBerry
Math o gyfrwngsmartphone model series Edit this on Wikidata
Mathffôn clyfar Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1999 Edit this on Wikidata
GwneuthurwrBlackBerry Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.blackberry.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
BlackBerry Bold 9650

Mae'r ddyfais hon yn amlbwrpas, gan ei bod yn gweithredu fel cymorthydd digidol personol (personal digital assistants), chwaraewr-cyfryngau symudol (portable media players), porwyr gwe (internet browsers), dyfais chwarae gemau (gaming devices), a llawer mwy. Caiff y fiaren ei brolio'n aml am ei gallu i dderbyn a gwthio ebyst a negeseuon parod (instant messages) (megis Blackberry Messanger) gan gynnal safonau diogelwch uchel iawn drwy amgrypto'r data yn y ddyfais ei hun.

Daeth y ffôn yn boblogaidd dros nos gan fusnesau a'r byd diwydiannol, ond yn hytrach na chanolbwyntio ar hynny, ymledodd ei hadennydd i gystadlu gydag IPhone ac Android i ennill cwsmeriaid cyffredin gyda gogwydd at gemau a'r angen am raglenni 'cyfryngol' e.e. fideo ac apps.[1]

Draenen ariannol yn ystlys y cwmni

golygu

Ar y 30 Mawrth 2012, cyhoeddodd y cwmni iddyn nhw wneud £78 miliwn o golled yn y chwarter diwethaf. Roedd pob siar yn y cwmni ar y diwrnod hwnnw yn werth llai na $14; siars a fu, yn eu hanterth, yn werth deg gwaith hynny: $140. Cafwyd sawl nwydd a fu'n ffiasgo e.e. lansiwyd y fiaren PlayBook heb y gallu i ddanfon ebost, yn 2011 ac erbyn Mawrth 2012 (flwyddyn yn ddiweddarach) roeddent yn mynd yn rhad fel baw, ar wefannau fel Ebay, er mwyn eu gwared.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Christopher Williams (30/03/2012). BlackBerry beats a shambolic retreat. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 01 Ebrill 2012.