Bluetooth
Protocol di-wifr ydy Bluetooth, sy'n defnyddio dull agos (short-range) o drosglwyddo gwybodaeth. Fel arfer fe ddigwydd hyn o ddyfais electronig symudol megis y ffôn llaw drwy greu rhwydwaith ardal bersonol di-wifr (neu yn Saesneg, wireless personal area networks (PANs).
Delwedd:Bluetooth headset.jpg, UsbBluetoothDongle.jpeg, Bluetooth network topology.png | |
Enghraifft o'r canlynol | de facto standard, near-field communication, communication protocol |
---|---|
Math | rhwydwaith di-wifr |
Rhan o | Apple Pencil, Bluetooth speaker |
Perchennog | Bluetooth Special Interest Group |
Gwefan | https://www.bluetooth.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall gysylltu un dyfais electronig symudol gyda dyfais tebyg neu gyfrifiadur, yr argraffydd, camera neu fideo er mwyn trosglwyddo gwybodaeth o'r naill i'r llall; gallant syncroneiddio'r wybodaeth er mwyn cadw'r ddau yn gyfoes. Mae'r wybodaeth yn cael ei danfon dros fand eang gydag amledd o 2.4 GHz. Sefydlwyd grŵp i ddatblygu Bluetooth, grwp o'r enw Bluetooth Special Interest Group (SIG) sy'n cynnwys cwmniau cyfrifiadurol, telegyfathrebu, rhwydweithiol ac electronig.