Blade Runner
Ffilm ffuglen wyddonol Americanaidd o 1982 a gyfarwyddwyd gan Ridley Scott yw Blade Runner. Harrison Ford sy'n serennu yn y ffilm ochr yn ochr â Rutger Hauer. Seiliwyd y sgript gan Hampton Fancher a David Peoples ar y nofel Do Androids Dream of Electric Sheep gan Philip K. Dick. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth i'r ffilm gan Vangelis a gyhoeddwyd yn 1968. Lleolwyd stori'r ffilm mewn Los Angeles dystopaidd yn y flwyddyn 2019, lle mae bodau wedi eu creu drwy beirianneg genetig a elwir replicants, caethweision sy'n edrych yr un ffunud â bodau dynol go iawn, yn cael eu cynhyrchu gan gorfforaeth rymus y teulu Tyrell. Yn sgil gwrthryfel treisgar gan y replicantod, gwaharddwyd eu defnydd ar y Ddaear, a chyfyngir eu defnydd i wladychfeydd yn y gofod ac o gwmpas Cysawd yr Haul. Caiff replicantod sy'n dod i'r Ddaear eu hel a'u lladd gan adran arbennig o'r heddlu, lleiddiaid-ditectwyr a elwir blade runners. Mae'r stori yn canolbwyntio ar un grŵp o replicantod peryglus sydd newydd ddianc i Los Angeles, a blade runner wedi hanner ymddeol o'r enw Rick Deckard, sy'n cael y dasg o'u hela nhw.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America, Hong Cong |
Rhan o | Cofrestr Cenedlaethol Ffimiau |
Dyddiad cyhoeddi | 25 Mehefin 1982, 10 Medi 1982, 24 Medi 1982, 14 Hydref 1982, 1982 |
Genre | tech noir, agerstalwm, ffilm gyffro, neo-noir, ffilm ddistopaidd, film noir, ffilm wyddonias, ffilm ddrama, ffilm llawn cyffro, ffilm a seiliwyd ar nofel, arthouse science fiction film |
Olynwyd gan | Blade Runner 2049 |
Prif bwnc | android, deallusrwydd artiffisial |
Lleoliad y gwaith | Los Angeles |
Hyd | 112 munud, 116 munud |
Cyfarwyddwr | Ridley Scott |
Cynhyrchydd/wyr | Michael Deeley, Bud Yorkin, Jerry Perenchio, Ivor Powell |
Cwmni cynhyrchu | The Ladd Company, Tandem Productions, Warner Bros. |
Cyfansoddwr | Vangelis |
Dosbarthydd | Warner Bros., InterCom, MOKÉP |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Jordan Cronenweth |
Gwefan | https://www.warnerbros.com/blade-runner |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |