Rutger Hauer

cyfarwyddwr ffilm ac actor a aned yn Breukelen yn 1944

Actor, awdur ac amgylcheddwr Iseldiraidd oedd Rutger Oelsen Hauer (23 Ionawr 1944 - 19 Gorffennaf 2019)[1]. Actiodd mewn cyfresi teledu a ffilmiau yn Iseldireg a Saesneg.

Rutger Hauer
GanwydRutger Oelsen Hauer Edit this on Wikidata
23 Ionawr 1944 Edit this on Wikidata
Breukelen Edit this on Wikidata
Bu farw19 Gorffennaf 2019 Edit this on Wikidata
Beetsterzwaag Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Taldra1.85 metr Edit this on Wikidata
TadArend Hauer Edit this on Wikidata
MamTeunke Mellema Edit this on Wikidata
PriodHeidi Merz, Ineke ten Cate Edit this on Wikidata
PlantAysha Hauer Edit this on Wikidata
Gwobr/auGolden Calf Culture Prize, Golden Calf for Best Actor, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Golden Globes Edit this on Wikidata

Cychwynodd ei yrfa ym 1969 gyda rhan deitl y gyfres deledu Floris yn yr Iseldiroedd. Mae ei gredydau ffilm yn cynnwys Flesh+Blood, Blind Fury, Blade Runner, The Hitcher, Escape from Sobibor (a enillodd Wobr Golden Globe ar gyfer Actor Cefnogol Gorau ), Nighthawks, Wedlock, Sin City, Confessions of a Dangerous Mind, Ladyhawke, Buffy the Vampire Slayer, The Osterman Weekend, The Blood of Heroes, Batman Begins, Hobo with a Shotgun, a The Rite.[1]

Sefydlodd Gymdeithas Starfish Rutfish Hauer, sefydliad ymwybyddiaeth am AIDS .

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Hauer ar 23 Ionawr 1944 yn Breukelen,[2] yn fab i athrawon drama Teunke (g. Mellema) ac Arend Hauer.[3] Roedd ganddo dair chwaer, un yn hŷn a dwy yn iau. Magwyd Hauer a'i frodyr a chwiorydd yn Amsterdam. Gan fod ei rieni'n brysur iawn yn eu gyrfaoedd, magwyd ef a'i chwiorydd yn bennaf gan famaethod. Aeth i ysgol Waldorf Yn 15 oed, rhedodd Hauer i ffwrdd am fywyd ar y môr a threuliodd flwyddyn yn sgwrio deciau ar llong cludo awyrennau. Gan ddychwelyd adref, gweithiodd fel trydanwr ac yn saer tra'n gorffen ei ddiploma ysgol uwchradd gyda'r nos. Mynychodd Hauer yr Academi Theatr a Dawns yn Amsterdam ar gyfer dosbarthiadau actio, gyda thoriad byr pan gafodd ei ddrafftio i wasanaethu fel meddyg ymladd ym Myddin Brenhinol yr Iseldiroedd.[4]

Bywyd personol golygu

Roedd Hauer yn amgylcheddwr.[5] Sefydlodd Hauer hefyd sefydliad ymwybyddiaeth AIDS o'r enw Cymdeithas Starfish Rutger Hauer.[6]

Priododd Hauer ei ail wraig, Ineke ten Cate, ym 1985 (roeddent wedi bod gyda'i gilydd ers 1968). Roedd ganddo un plentyn, yr actores Aysha Hauer (ganwyd 1966), a wnaeth ef yn daid yn 1987.[7]

Ym mis Ebrill 2007, cyhoeddodd ei hunangofiant All That Moments: Stories of Heroes, Villains, Replicants, a Blade Runners (cyd-ysgrifennwyd gyda Patrick Quinlan), lle trafododd lawer o'i rolau ffilm.[8] Aeth elw o'r llyfr yni Gymdeithas Starfish Rutger Hauer.[9]

Bu farw Hauer ar 19 Gorffennaf 2019 yn 75 oed wedi gwaeledd byr.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Rutger Hauer". British Film Institute. Cyrchwyd 27 Ionawr 2019.
  2. Rutger Hauer: Bescheiden wereldster – Privé | Het laatste Privé nieuws leest u op Prive.nl van De Telegraaf [prive]. Telegraaf.nl (30 November 2009). Retrieved on 2012-12-28.
  3. De Boerderij van Rutger Hauer te Beetsterzwaag Archifwyd 2020-09-29 yn y Peiriant Wayback., 50plusser.nl; adalwyd 17 Ionawr 2018.(Iseldireg)
  4. Staff (23 Ebrill 1981). "Rutger Hauer Out of Character". Sarasota Herald-Tribune. Associated Press. t. 6E.
  5. Howell, Peter (21 Mawrth 2011). "Rutger Hauer prefers to shoot quips, not guns". The Toronto Star. Cyrchwyd 23 Awst 2015.
  6. Rutger Hauer Starfish Association[dolen marw]. adalwyd 30 Mai 2008.
  7. "Acteur - Ayesha Hauer". Filmgek.nl. 14 Rhagfyr 1987. Cyrchwyd 6 Hydref 2017.
  8. Rutger Hauer and Patrick Quinlan. All those moments: stories of heroes, villains, replicants, and Blade Runners, New York, NY: HarperEntertainment, 2007. ISBN 0-06-113389-2.
  9. Todd Leopold. "'Blade Runner' actor on 'strange profession'". CNN.com. Cyrchwyd 12 Mehefin 2007.
  10. Morris, Chris (24 Gorffennaf 2019). "Rutger Hauer, 'Blade Runner' Co-Star, Dies at 75". Variety (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2019.

Dolenni allanol golygu