Deallusrwydd artiffisial

Technoleg a changen o gyfrifiadureg ydy Deallusrwydd artiffisial sy'n astudio ac yn ceisio datblygu peiriannau a meddalwedd deallus. Mae'r cyhoeddiadau gorau yn y maes hwn yn diffinio system ddeallus fel un sy'n adnabod ei amgylchedd ac yn ymateb iddo er mwyn llwyddo yn ei waith. Credir y gellir ail-greu gwybodaeth neu ddeallusrwydd bodau dynol (Homo sapiens) mewn peiriant; mae llawer o nofelau a ffilmiau'n defnyddio'r thema hon.

Gwasanaethferch artiffisial ar wefan siop; 2010.

Bathwyd y term gan John McCarthy yn 1955, a diffiniodd y term fel "gwyddoniaeth a pheirianeg creu peiriannau deallus."

Mae'n bwnc eithaf arbenigol ac yn un technegol iawn, gyda nifer o is-feysydd sy'n aml iawn yn methu â chyfathrebu â'i gilydd. Y rheswm dros rai o'r is-feysydd hyn yw ffactorau diwylliannol a chymdeithasol gwahanol. Mae rhai'n unigryw i un sefydliad arbennig, neu weithiau un ymchwilydd arbennig. Mae rhai o'r israniadau'n canolbwyntio ar ateb un math o broblem arbennig ac eraill yn ymchwiliadau amrywiol sy'n edrych ar nifer o dduliau i ateb y broblem.

Y broblem (neu'r nod) canolog i ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial yw: gwybodaeth, rhesymeg, cynllunio, synhwyro a'r gallu i symud gwrthrychau. Un o'r prif broblemau canolog yw "deallusrwydd cryf" (strong AI) a cheisir ei ddatrys drwy ddulliau sy'n ymwneud ag ystadegaeth, rhesymeg, technoleg gwybodaeth cyfrifiadurol ac AI symbolaidd sef y dull traddodiadol.

Rhai cerrig milltir pwysig[1] golygu

  • 1950 — Alan Turing yn creu'r “Turing Test” i werthuso a oes gan y cyfrifiadur ddeallusrwydd artiffisial. Y prawf: peiriant i dwyllo person i gredu mai person ydyw.
  • 1952 — Arthur Samuel yn ysgrifennu'r meddalwedd cyntaf a oedd yn dysgu ei hunan.
  • 1957 — Frank Rosenblatt yn cynllunio cyfrifiaduron gyda'r rhwydwaith niwral cyntaf, gan ddynwared patrwm yr ymennydd dynol.
  • 1967 — Algorithm "y cymydog agosaf" (“nearest neighbor”) yn cael ei ysgrifennu; canfod patrymau syml.
  • 1976 — Owain Owain yn ysgrifennu Y Dydd Olaf, nofel Gymraeg, lle rhagwelir robotiaid dynol yn cymryd drosodd oddi wrth y ddynoliaeth; cwestiynir beth sy'n gwneud rhywun yn ddynol, a'r ffin niwlog rhwng dyn a pheiriant.
  • 1979 — Myfyrwyr Prifysgol Stanford yn creu'r “Stanford Cart”, i alluogi peiriant i fforio o amgylch cadeiriau a rhwystrau eraill mewn ystafell.
  • 1981 — Gerald Dejong yn cyflwyno'r cysyniad o Explanation Based Learning (EBL).
  • 1985 — Terry Sejnowski yn dyfeisio NetTalk, sy'n dysgu ynganu geiriau, yn union fel babi.
  • 1990au — Addysgu peirianyddol yn symud ei ffocws o wybodaeth i ddata; gwyddonwyr yn creu rhaglenni i gyfrifiaduron archwilio a dadansoddi cronfeydd enfawr o ddata, a 'dysgu' o'r canlyniadau.
  • 1997 — Meddalwedd "Deep Blue" IBM yn curo Garry Kasparov, pencampwr gwyddbwyll y byd.
  • 2006 — Bathodd Geoffrey Hinton y term "addysgu tyfn" (“deep learning”) er mwyn egluro algorithmau newydd sy'n caniatau i gyfrifiaduron adnabod gwrthrychau a thestun mewn lluniau a fideos.
  • 2010 — "Kinect" Microsoft yn tracio 20 nodwedd dynol ar raddfa o 30 yr eiliad.
  • 2011 — "Watson" IBM yn curo cystadleuwyr dynol yn y gêm Jeopardy.
  • 2011 — Datblygwyd Google Brain, gyda'i rhwydwaith niwral tyfn, a all ddosbarthu a dysgu fel cath.
  • 2012 – "X Lab" Google yn datblygu i fedru pori fideos YouTube gan adnabod y fideos hynny lle ceir cathod ynddyn nhw.
  • 2014 – Facebook yn datblygu DeepFace, meddalwedd algorithmig sy'n adnabod bodau dynol o ffotograffau - i lefel cystal â pherson.
  • 2015 – Microsoft yn creu'r Distributed Machine Learning Toolkit sy'n rhannu'r sgil o ddysgu rhwng nifer o gyfrifiaduron.
  • 2015 – Dros 3,000 o arbenigwyr Deallusrwydd Artiffisial (gan gynnwys Stephen Hawking, Elon Musk a Steve Wozniak) yn arwyddo llythyr agored a oedd yn rhybuddio pobl o'r perygl o greu arfau otomatig a all ddewis, adnabod ac ymosod ar darged heb i berson fod yn eu rheoli.
  • 2016 – Algorithmau artiffisial Google yn curo person yn y gêm Go bum gwaith allan o bump. Fe ystyrir fod Go yn gêm llawer anoddach na gwyddbwyll.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. datasciencecentral.com;[dolen marw] adalwyd 13 Mehefin 2016
  • "A Ping-Pong-Playing Terminator". Popular Science.
  • "Best robot 2009". Neterion.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-27. Cyrchwyd 2022-12-27.