Bóand
Bóand yw'r dduwies Geltaidd yr enwir Afon Boyne yn Leinster, Iwerddon, ar ei hôl. Ceir sawl ffurf ddiweddarach ar ei henw Gwyddeleg, e.e. Bóann a Bóinn; o'r ffurf olaf y daw'r ffurf Seisnigaidd Boyne a welir yn enw'r afon.
Daw'r enghraifft gynharaf o'r enw yng ngwaith y daearyddwr Groeg Ptolemi (2ail ganrif), fel Bouinda. "Buwch wen" yw'r ystyr yn Gymraeg.
Fel yn achos sawl duwies gynhanesyddol arall, Bóand oedd duwies yr afon sy'n dwyn ei henw. Mae hi'n cael ei bortreadu felly yn y chwedlau Gwyddeleg hynafol a adnabyddir heddiw fel y Cylch Mytholegol. Yno mae hi'n wraig i Nechtan (neu Elcmar, yn ôl y ffynhonnell), ac yn gariad i'r Dagda.
Mae'r ardal o gwmpas siambrau claddu Neolithig Newgrange yn cael ei galw'n Brug na Bóinne. Roedd yn gartref i Oengus, arwr y chwedl Aislinge Oenguso.
Cyfeiriadau
golygu- Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell, 1997; arg. newydd 2000)