Giovanni Boccaccio
llenor Eidalaidd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Boccaccio)
Bardd ac awdur Eidalaidd oedd Giovanni Boccaccio (Mehefin neu Gorffennaf 1313 – 21 Rhagfyr 1375). Daeth yn un o ffigyrau amlwg y Dadeni Dysg yn yr Eidal. Mae'n fwyaf enwog fel awdur y Decamerone. Ganed Boccaccio yn fab llwyn a pherth i'r marsiandïwr Boccaccio di Chellino, yn Certaldo neu Fflorens. Aeth i Napoli yn 1327 i weithio fel marsiandïwr. Tua 1340 roedd yn Fflorens, lle daeth yn gyfeillgar â Francesco Petrarca, a'i rhoes mewn cysylltiad a byd y dyneiddwyr. Ysgrifennodd fywgraffiad Dante, (Trattatello in laude di Dante, neu Vita di Dante) tua 1360.
Giovanni Boccaccio | |
---|---|
![]() Ffresgo o Giovanni Boccaccio gan Andrea del Castagno, tua 1450 | |
Ganwyd | 1313 ![]() Certaldo, Fflorens, Paris ![]() |
Bu farw | 21 Rhagfyr 1375 ![]() o edema ![]() Certaldo ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens ![]() |
Galwedigaeth | awdur storiau byrion, bardd, diplomydd, cyfieithydd, cofiannydd, mythograffydd, ysgrifennwr ![]() |
Adnabyddus am | Decamerone, Elegia di Madonna Fiammetta ![]() |
GweithiauGolygu
BarddoniaethGolygu
EidalegGolygu
- Filocolo, addasiad o Floris ende Blancefloer
- Elegia di Madonna Fiammetta
- Filostrato
- Teseida
- Commedia delle Ninfe fiorentine (Ninfale d'Ameto)
- Ninfale fiesolano
RhyddiaithGolygu
EidalegGolygu
- Decamerone
- Trattatello in laude di Dante (Vita di Dante)
- Della geneologia de gli Dei (Gwyddoniadur o Fytholeg Groeg)
LladinGolygu
- De casibus virorum illustrium (Dynion enwog)
- De claris mulieribus (Merched enwog)
- De genealogiis deorum gentilium (Gwyddoniadur o Fytholeg Groeg)