Boer
(Ailgyfeiriad o Boeriaid)
Boer (y gair Iseldireg am "ffermwr") yw'r term a ddaeth i gael ei ddefnyddio am ddisgynyddion ymfudwyr o'r Iseldiroedd i Dde Affrica. Datblygodd eu hiaith i fod yn Affricaneg.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig ![]() |
---|---|
Mamiaith | Affricaneg ![]() |
Label brodorol | Boere ![]() |
Poblogaeth | 1,500,000 ![]() |
Rhan o | Affricaneriaid ![]() |
Enw brodorol | Boere ![]() |
![]() |
Ymsefydlodd y Boeriaid yn ardal y Penrhyn yn wreiddiol. Yn y 19g, pan ddaeth yr ardal yma yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, symudodd rhai o'r Boeriaid tua'r gogledd, i greu Talaith Rydd Oren a'r Transvaal, a elwid y Taleithiau Boer. Gelwid y rhai a ymfudodd tua'r gogledd yn Trekboere yn wreiddiol.
Yn ddiweddarach, ymladdasant ddau ryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig, Rhyfel Cyntaf y Boer ac Ail Ryfel y Boer. Heddiw, maent yn defnyddio'r term Afrikaner amdanynt eu hunain fel rheol, er bod yn well gan rai o'r elfennau mwy ceidwadol ddefnyddio'r term Boer.