Bohemian Rhapsody

Cân gan y band roc Seisnig Queen yw "Bohemian Rhapsody". Fe'i hysgrifennwyd gan y prif leisydd Freddie Mercury ar gyfer albwm stiwdio'r band A Night at the Opera yn 1975. Mae'r gân yn cynnwys sawl elfen wahanol; baled sy'n gorffen gyda solo gitâr, adran operatig ac adran roc caled. Ar y pryd, dyma oedd y sengl ddrutaf i gael ei chynhyrchu erioed.

"Bohemian Rhapsody"
Sengl gan Queen
o'r albwm A Night at the Opera
Ochr-A Bohemian Rhapsody
Ochr-B I'm in Love with My Car
Rhyddhawyd: 31 Hydref 1975
Ysgrifennwr: Freddie Mercury


Pan gafodd ei rhyddhau, bu "Bohemian Rhapsody" yn llwyddiant masnachol mawr, gan aros ar frig siart Gwledydd Prydain am naw wythnos a chan werthu dros filiwn o gopïau erbyn diwedd mis Ionawr 1976. Aeth i rif un am yr eildro, am bum wythnos y tro hwn, pan fu farw Mercury yn 1991. O ganlyniad dyma oedd y drydedd sengl i werthu fwyaf o gopïau erioed. Aeth i frig y siartiau mewn nifer o wledydd eraill hefyd, gan gynnwys Canada, Awstralia, Seland Newydd, Iwerddon a'r Iseldiroedd. Yn wreiddiol yn yr Unol Daleithiau, cyrhaeddodd y gân rif naw yn 1976. Dychwelodd i rif dau yn y siart yn 1992 ar ôl iddi ymddangos yn y ffilm Wayne's World, a gynyddodd ei phoblogrwydd yn yr Unol Daleithiau.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.