Bonedd y Saint

achau seintiau a brenhinoedd Brythoneg

Mae Bonedd y Saint yn draethodyn achyddol sy'n manylu yr achau seintiau a brenhinoedd Brythoneg cynnar. Mae'n cyfeirio at amryw o lawysgrifau gwahanol ar gael yn dyddio o'r 12g, er bod y deunydd yn llawer hŷn; gwelir hyn er enghraifft yn enwau'r seintiau: enwau mewn Hen Gymraeg ydynt.

Bonedd y Saint
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi12 g Edit this on Wikidata
Prif bwncachyddiaeth Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Mae'n bosib mai yng Ngheredigion y sgwennwyd y llawysgrif hynaf a geir heddiw, a gellir ei dyddio i 1140 oherwydd pwysigrwydd Dewi Sant drwy'r llawysgrif, a gwyddys fod Dewi erbyn y dyddiad hwn o statws arwr cenedlaethol a nawddsant uchel ei barch. Roedd Esgobaeth Tyddewi i'r Tywysogion Cymreig yn bwysicach na phrifddinas fetropolitan.

Roedd gan y rhan fwyaf o seintiau'r 6ed a'r 7g gysylltiad uniongyrchol â'r brenhinoedd Cymreig. Ceir sawl fersiwn o'r achau hyn, sy'n awgrymu'n gryf eu bod yn cael eu cyfri'n bwysig iawn yn eu dydd. Y pryd hwn hefyd dylid cofio fod crefydd ac addysg yn un: ni cheid y naill heb y llall. Ceir cysylltiad hynod bwysig ynddynt rhwng Cymru ac Iwerddon. Ymddengys mai copiau yw Bonedd y Saint o gynnyrch llawer cynt, sydd bellach ar goll. Mae'r llawysgrifau sydd wedi goroesi'n taflu golau ar gymdeithas a gweleidyddiaeth yr oes ac o werth aruthrol i haneswyr ac academyddion eraill.

Copiau sydd wedi goroesi golygu

  1. Peniarth 16), 53v-54v ('Bonhed y Seint'), 13eg cynnar, anorffenedig
  2. (Peniarth 45), tt. 286-291 ('Bonhed Seint Kymry'), 13g hwyr, gorffenedig ond gyda rhannau ar goll
  3. (Peniarth 12), fo. 25r-v ('Boned y Seint'), 14g cynnar, fersiwn crynno, syn perthyn i Peniarth 4 ('Llyfr Gwyn Rhydderch', c. 1320).
  4. (Hafod 2), 209v-212r ('Bonheyd Seynt'), ail hanner y 14g; fe'i gelwir weiuthiau'n 'Llannerch'.
  5. (Hafod 16), tt. 110-112 (dim teitl), c. 1400, anorffenedig. hefyd: Peniarth 50 ('Y Cwtta Cyfarwydd', 1415-1456), a chopi yng Nghaerdydd 25 (Hb), tt. 108-110.
  6. (Llanstephan 28), tt. 69-75, c.1475, a gymerwyd o'r Hengwrt MSS 33 coll.
  7. (Peniarth 27), part 2, tt. 67-70, c. 1475-1500.
  8. (Peniarth 127), tt. 43-49, c. 1510.
  9. (Peniarth 182), tt. 63-74, c. 1514.
  10. (Peniarth 137), 199-204, c. 1541.
  11. (Peniarth 177), tt. 262-267, 269. Hefyd Peniarth 178, rhan 1, tt. 19-20 a Pheniarth 132, tt. 119-121, c. 1544-1577.

Cyfeiriadau golygu

Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.