Llyfr Gwyn Rhydderch
Llyfr Gwyn Rhydderch yw un o'r llawysgrifau Cymreig pwysicaf a mwyaf cynhwysfawr sydd wedi goroesi. Tybir i'r rhan fwyaf ohono gael ei ysgrifennu yn ne-orllewin Cymru tua 1350. Dyma'r casgliad cynharaf o destunau rhyddiaith yn y Gymraeg, ond eto'n cynnwys rhai enghreifftiau o farddoniaeth gynnar. Oherwydd ei dafodiaith tybir fod y copïwr yn ŵr o Ddeheubarth ac mae'n bosibl fod cysylltiad rhyngddo a mynachlog Ystrad Fflur. Daw'r enw o'r ffaith i'r llyfr gael ei ysgrifennu ar gyfer y noddwr Rhydderch ab Ieuan Llwyd, o Lyn Aeron, Ceredigion ac mai gwyn yw lliw'r clawr. Fe'i cedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth mewn dwy ran, llawygrif Peniarth 4 a Pheniarth 5 (rhanwyd y llawysgrif yn ddau tua diwedd yr Oesoedd Canol), fel rhan o'r casliad a enwir yn Llawysgrifau Peniarth.
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Deunydd | memrwn, inc |
Rhan o | Llawysgrifau Peniarth |
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | c. 1350 |
Genre | llenyddiaeth ffuglen |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Prif bwnc | llên gwerin |
Yn cynnwys | Pedair Cainc y Mabinogi, Y Tair Rhamant, Breuddwyd Macsen Wledig, Cyfranc Lludd a Llefelys, Culhwch ac Olwen |
Cynnwys
golyguYn y llyfr ceir nifer o gyfieithiadau Cymraeg o destunau Lladin a Ffrangeg, gan gynnwys Delw y Byd, Efengyl Nicodemus, Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth, bucheddau'r saint fel Buchedd Mair Wyry, Buchedd Sant Catrin, Buchedd Fargred a Mair o'r Aifft, testunau crefyddol eraill fel Purdan Padrig, ynghyd â chwedl Siarlymaen (Ystorya de Carolo Magno) ac Ystorya Brown o Hamtwn. Cedwir y rhain yn llawysgrif Peniarth 5.
Ond y deunydd pwysicaf o lawer yw'r testunau o'r chwedlau Cymraeg Canol a adnabyddir fel y Mabinogion (yn gamarweiniol), sef Pedair Cainc y Mabinogi, Y Tair Rhamant, Breuddwyd Macsen Wledig, Cyfranc Lludd a Llefelys a chwedl Culhwch ac Olwen (dim ond testun o Breuddwyd Rhonabwy sydd eisiau). Dyma'r casgliad pwysicaf a chynharaf o chwedlau Cymraeg Canol ac eithrio Llyfr Coch Hergest. Cedwir y rhain yn llawysgrif Peniarth 4.
Llyfryddiaeth
golygu- J. Gwenogvryn Evans (gol.), The White Book Mabinogion (Pwllheli, 1907). Testun diplomatig.
- R.M. Jones (rhagymadrodd): J. Gwenogvryn Evans (gol.), Llyfr Gwyn Rhydderch: Y Chwedlau a'r Rhamantau (Caerdydd, 1973).