Pont yr Aber

pont yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Bont Aber)

Mae Pont yr Aber (Saesneg: Aber Swing Bridge) yn bont droi i gerddwyr yng Nghaernarfon, Gwynedd, sy’n gallu agor i adael cychod allan ac yn ôl i'r harbwr. Mae'r bont droed hon yn mynd dros Afon Seiont ac mae’n croesi o fynedfa "Watergate", Castell Caernarfon i flaendraeth a Choed Helen.

Pont yr Aber
Mathpont Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.139°N 4.2789°W Edit this on Wikidata
Map

Adeiladwyd y bont bresennol yn 1974 ac mae wedi eu gwneud o goncrid a dur ac mae'n cael ei bweru gan drydan.

Mae'r bont bresennol yn cymryd lle pont droi a agorodd ar 1 Mawrth 1900 ond a ddinistrwyd yn 1969. Roedd y bont hon wedi ei wneud o bren a metel. Roedd ceir a phobol yn gallu defnyddio'r bont. Cyn hyn, roedd yna bont fferi yn mynd a phobl dros yr afon am hanner ceiniog yna ac yn nôl. Am ychydig o amser ar ôl hynny roedd pont Bailey yno i adael pobl groesi.