Afon weddol fer (tua 20 km) yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Seiont. Ystyr y gair "seiont" yn wreiddiol oedd "cryf" neu o bosib "saint". Afon Saint yw'r enw cywir am yr afon nid Seiont, yn ôl yr Athro Gwynedd Peirce, brodor o Gaernarfon.

Afon Seiont
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.15°N 4.1728°W, 53.1386°N 4.2756°W Edit this on Wikidata
AberAfon Menai Edit this on Wikidata
Hyd14 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Ystyrir fel rheol fod Afon Seiont yn tarddu yn Llyn Padarn ger pentref Cwm-y-glo, ond gelwir yr afon yn Afon Rhythallt am y rhan gyntaf o'i thaith tua'r môr, nes cyrraedd Pont Rhythallt ger Llanrug. O'r fan honno ymlaen gelwir hi yn Afon Seiont. Mae'n llifo trwy bentref Pont-rug a heibio Caeathro cyn cyrraedd Caernarfon, lle mae'n cyrraedd y môr gerllaw Castell Caernarfon.

Ceir pysgota da am Eog a Brithyll yn Afon Seiont. Credir fod yr enw Segontium ar y gaer Rufeinig yng Nghaernarfon wedi dod o enw'r afon, sy'n llifo heibio'r gaer honno cyn cyrraedd y dref.

Aber yr afon a'r harbwr