Bora Bora
Atol yn y Cefnfor Tawel sy'n ffurfio rhan o Polynesia yw Bora Bora. Yn wleidyddol, mae'n ffurfio rhan o Polynesia Ffrengig gyda Tahiti a Moorea ymhlith eraill. Ffurfir yr ynys gan hen losgfynydd, Mynydd Otemanu, 727 medr o uchder. Roedd y bobolgaeth yn 2000 yn 4500 o drigolion. Y dref fwyaf yw Vaitape. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd gan yr Unol Daleithiau wersyll milwrol mawr yma. Ers hynny, mae wedi dod yn boblogaidd fel cyrchfan i dwristiaid.
Math | grŵp o ynysoedd, anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 10,605 |
Cylchfa amser | UTC−10:00 |
Gefeilldref/i | Baden-Baden |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Société |
Sir | Polynesia Ffrengig |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 30.55 km² |
Uwch y môr | 727 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 16.494°S 151.736°W |