Polynesia
Casgliad mawr o dros 1000 o ynysoedd ar wasgar canolbarth a de'r Cefnfor Tawel yw Polynesia (o'r Groeg: πολύς 'llawer', νῆσος 'ynys'). Triongl enfawr o ynysoedd yw hi, ac un o dri rhanbarth mawr Oceania (gyda Melanesia a Micronesia).
Math | rhanbarth, ynysfor, grŵp, ardal ddiwylliannol |
---|---|
Poblogaeth | 2,228,747 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Oceania'r ynysoedd, Oceania |
Gwlad | Seland Newydd, Ffrainc, Tsile, Unol Daleithiau America, Ciribati, Twfalw, Samoa, Tonga, Ynysoedd Pitcairn |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 16.852961°S 148.40522°E |
Ynysoedd
golyguMae Polynesia yn cynnwys yr ynysoedd isod:
- Aitutaki
- Ynysoedd Austral neu Ynysoedd Tubuai (rhan o Polynesia Ffrengig).
- Ynys Baker
- Ynysoedd Cook
- Ynysoedd Gambier (rhan o Polynesia Ffrengig)
- Ynysoedd Society (rhan o Polynesia Ffrengig)
- Hawaii
- Ynys Howland
- Atoll Johnston
- Ynysoedd Kermadec
- Ynysoedd y Linell (rhan o Ciribati, yn cynnwys hefyd Kingmanrif, Atoll Palmyra ac Ynys Jarvis)
- Ynysoedd Marquesas (rhan o Polynesia Ffrengig)
- Ynysoedd Midway
- Nawrw
- Seland Newydd
- Niue
- Ynys y Pasg
- Ynysoedd Phoenix neu Rawaki (rhan o Ciribati)
- Ynysoedd Pitcairn
- Ynysoedd Samoa (yn cynnwys Samoa a Samoa Americanaidd)
- Tahiti
- Ynysoedd Tokelau
- Tonga
- Ynysoedd Tuamotu (rhan o Polynesia Ffrengig)
- Twfalw
- Wallis a Futuna