Tahiti
Ynys yn y Cefnfor Tawel yw Tahiti, hen enw Otaheite. Gydag ynysoedd Moorea a Bora Bora, mae'n rhan o Polynesia Ffrengig, sy'n cynnwys 118 o ynysoedd rhwng Awstralia a De America. Mae fferis yn mynd yn rheolaidd rhwng Tahiti a Moorea. Mae awyrennau'n hedfan o Faes Awyr Rhyngwladol Faa'a i Moorea, Bora Bora ac ynysoedd mwy anghysbell.
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Papeete |
Poblogaeth | 178,133, 84,500, 140,000, 95,600 |
Cylchfa amser | UTC−10:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Windward Islands |
Sir | Polynesia Ffrengig |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 1,042 km² |
Uwch y môr | 2,241 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 17.7°S 149.5°W |
Hyd | 61 cilometr |
Mae gan yr ynys arwynebedd o 1,036 km² ac roedd y boblogaeth yn 2007 yn 178,133[1]. Y brifddinas yw Papeete.
Defnyddir y franc Cefnfor Tawel Ffrengig ar yr ynysoedd.[2]
Cyrhaeddodd Capten James Cook Tahiti yn Ebrill 1769. Gollyngodd angor ym Mae Matafai, a sefydlodd o Caer Fenws er mwyn gweld trawstaith y blaned Gwener (Fenws) ar 3 Mehefin 1769.[3]
Ysgrifennwyd a golygwyd y geiriadur cyntaf yn yr iaith frodorol, Tahitïeg, gan John Davies o Lanfihangel-yng-Ngwynfa, Powys. Creuodd o wyddor Tahitïeg, yn defnyddio llythrennau Ladin ym 1805[4]. Bu farw John Davies yn Tahiti yn 1855.[5]
Cyrhaeddodd Paul Gauguin Tahiti ar 9 Mehefin 1981 ac arhosodd tan 1893 cyn mynd yn ôl i Baris.[6] Erbyn hyn mae Amgueddfa Paul Gauguin ar ynys Tahiti.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan worldatlas.com
- ↑ "Gwefan twristiaeth Tahiti". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-17. Cyrchwyd 2015-10-18.
- ↑ "Gwefan captcook-ne". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-09. Cyrchwyd 2015-10-19.
- ↑ Gwefan Omniglot
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "Gwefan Amgueddfa Gelf Cleveland". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 2015-10-19.
Oriel
golygu-
Arfordir Tahiti
-
Mynyddoedd a choedwig law yr ynys
-
Papeete
-
Machlud haul, harbwr Papeete