Gwas neidr flewog

(Ailgyfeiriad o Brachytron)
Brachytron
Brachytron pratense
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Libellulidae
Genws: Brachytron
Evans, 1845[1][2]
Rhywogaeth: B. pratense
Enw deuenwol
Brachytron pratense
(Müller, 1764)

Genws o weision neidr ydy Brachytron yn nheulu'r Aeshnidae. Mae'r genws yma'n cynnwys un rhywogaeth o weision neidr, sef y Gwas neidr flewog (Lladin: Brachytron pratense; Saesneg: Hairy dragonfly) ac fel yr awgryma'r enw, mae thoracs y gwas neidr hwn yn eithaf blewog.[3] Gellir ei ganfod yng Nghymru.[4][5]

Gwahaniaethau

golygu

Ceir stripiau hir, gwyrdd. Ceir hefyd marciau ofal ar ei abdomen: glas ar y gwryw a melyn ar y fenyw. Mae'n llai na rhywogaethau eraill y genws Aethna.[6]

Cynefin

golygu

Ei diriogaeth yw llynnoedd bychan, camlesi a phyllau o ddŵr glân, heb gemegolion, yn enwedig pan y ceir cyfoeth o lwyni a phlanhigion eraill ar ei glanau. Pan fo gwaith rheoli ffosydd yn digwydd, mae'n cadw draw. Mae'n eitha cyffredin yng ngwledydd Prydain. Mae'n hedfan yn llygad yr haul gan ddychwelyd i'w guddfan pan y cuddia'r haul tan gwmwl.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Brachytron, BioLib
  2. Dragonflies, Dutch Dragonflies
  3. Martin Schorr; Martin Lindeboom; Dennis Paulson. "World Odonata List". University of Puget Sound. Cyrchwyd 3 Hydref 2013.
  4. Brian Nelson, Robert Thompson (2004). The Natural History of Ireland's Dragonflies. Ulster Museum. ISBN 978-0-900761-45-4.
  5. Nelson, B., C. Morrow, and R. Thompson. "Brachytron pratense". National Museums and Galleries of Northern Ireland and Environment and Heritage Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-18. Cyrchwyd 2010-05-24.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  6. "Hairy Dragonfly". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 2011-05-27..

Dolen allanol

golygu