Brad Pitt

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Shawnee yn 1963

Actor a chynhyrchydd ffilmiau Americanaidd yw William Bradley "Brad" Pitt (ganwyd 18 Rhagfyr 1963). Daeth yn enwog yn sgîl nifer o ffilmiau llwyddiannus yn ystod canol y 1990au. Caiff ei ystyried fel un o ddynion mwyaf golygus y byd a thelir sylw mawr gan y cyfryngau i'w fywyd personol. Mae Pitt wedi cael ei enwebu am un o Wobrau Golden Globe ac un o Wobrau'r Academi.

Brad Pitt
GanwydWilliam Bradley Pitt Edit this on Wikidata
18 Rhagfyr 1963 Edit this on Wikidata
Shawnee Edit this on Wikidata
Man preswylSpringfield, Missouri, Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Missouri
  • Kickapoo High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor llais, model, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Taldra1.8 metr Edit this on Wikidata
TadWilliam Alvin Pitt Edit this on Wikidata
MamJane Etta Hillhouse Edit this on Wikidata
PriodJennifer Aniston, Angelina Jolie Edit this on Wikidata
PartnerJuliette Lewis, Gwyneth Paltrow, Jennifer Aniston, Angelina Jolie Edit this on Wikidata
PlantShiloh Jolie-Pitt, Knox Jolie-Pitt, Vivienne Jolie-Pitt Edit this on Wikidata
PerthnasauMaddox Jolie-Pitt, Pax Jolie-Pitt, Zahara Jolie-Pitt Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cymdeithas Adolygwyr Ffilm Boston i'r Actor Gorau, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Broadcast ar gyfer Cast Gorau, Gwobr Cymdeithas Genedlaethol Adolygwyr Ffilm i'r Actor Gorau, Gwobr y 'New York Film Critics' am yr Actor Gorau, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Phoenix am y Cast Gorau, Gwobr Cymdeithas Adolygwyr Ffilm San Diego i'r Perfformiad Gorau gan Ensemble, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Gwobr Rembrandt, Saturn Award for Best Supporting Actor, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Golden Globes, British Academy Film Awards, Volpi Cup for Best Actor, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100 Edit this on Wikidata
Brad Pitt yn arwyddo llofnodion i filwyr ym Maes Awyr İncirlik, Twrci, 7 Rhagfyr 2006
Brad Pitt yn 2007

Dechreuodd Pitt ei yrfa ar raglenni teledu gan gynnwys rôl rheolaidd ar yr opera sebon CBS Dallas ym 1987. Cafodd rannau cefnogol hefyd mewn ffilmiau ar gyfer arddegwyr, comedïau a dramâu chwaraeon teuluol. Daeth yn adnabyddus fel y cowboi sy'n cael cyfathrach rhywiol gyda chymeriad Geena Davis yn y ffilm Thelma & Louise (1991). Cafodd Pitt chwarae'r brif ran am y tro cyntaf yn y ffilm Interview with the Vampire (1994). Derbyniodd ganmoliaeth clodwiw am ei ran yn y ffilm droseddol Se7en a'r ffilm wyddonias Twelve Monkeys. Derbyniodd ganmoliaeth a beirniadaethau cadarnhaol hefyd am ei rôl yn y ffilm Fight Club (1999), lle chwaraeodd ran Tyler Durden. Ers hynny, mae ef wedi sefydlu ei hun ferl actor o'r radd flaenaf. Ei lwyddiannau mwyaf o safbwynt masnachol oedd Ocean's Eleven (2001), Spy Game (2001), Troy (2004), y comedi antur Mr. & Mrs. Smith (2005), a Burn After Reading (2008).

Bywyd personol golygu

Wedi iddo gael perthynas enwog gyda'r actores Gwyneth Paltrow, a phriodas â Jennifer Aniston, cychwynodd berthynas gyda'r actores Angelina Jolie a priododd y ddau yn Awst 2014. Mae eu perthynas wedi denu sylw'r cyfryngau ledled y byd a bathwyd y cyfansoddair "Brangelina". Maent wedi mabwysiadu tri o blant, Maddox, Pax a Zahara, a mae ganddynt tri o blant biolegol, Shiloh, Knox a Vivienne. Ers ei berthynas gyda Jolie, mae Pitt wedi ymroi'n fwyfwy i faterion cymdeithasol, yn ei wlad ei hun yn ogystal â thramor. Yn Medi 2016 cyhoeddwyd fod Jolie wedi gwneud cais am ysgariad.[1]

Gwragedd golygu

Plant golygu

Ffilmiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Brangelina ‘yn ysgaru’ , Golwg360, 20 Medi 2016. Cyrchwyd ar 21 Medi 2016.