Angelina Jolie
Actores ffilm Americanaidd yw Angelina Jolie (ganwyd Angelina Jolie Voight, 4 Mehefin 1975[1]) a Llysgennad Ewyllys Dda Asiantaeth Ffoaduriaid yr UN. Mae wedi derbyn tair Gwobr Golden Globe, dwy wobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn, a Gwobr Academi. Mae hi wedi hyrwyddo achosion dyngarol drwy’r byd, ac mae hi’n cael ei chydnabod am ei gwaith gyda ffoaduriaid fel ‘Goodwill Ambassador’ i’r United Nations High Commissioner for Refugees (UNHCR). Mae hi wedi cael ei galw yn un o fenywod harddaf y byd ac fe glywn yn aml am ei bywyd personol.[2][3][4][5]
Angelina Jolie | |
---|---|
Ganwyd | Angelina Jolie Voight 4 Mehefin 1975 Los Angeles |
Man preswyl | Los Angeles, Palisades |
Label recordio | Warner Classics |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Cambodia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, model, actor llais, sgriptiwr, dyddiadurwr, actor cymeriad, actor teledu, actor, cynhyrchydd, gwneuthurwr ffilm, dyngarwr, cynhyrchydd gweithredol, llenor, dyngarwr, model ffasiwn, sgriptiwr ffilm |
Swydd | UNHCR Goodwill Ambassador |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Angelina Jolie filmography, Gia, Girl, Interrupted, Changeling |
Taldra | 169 centimetr |
Cartre'r teulu | yr Almaen |
Tad | Jon Voight |
Mam | Marcheline Bertrand |
Priod | Jonny Lee Miller, Billy Bob Thornton, Brad Pitt |
Partner | Jenny Shimizu, Brad Pitt |
Plant | Shiloh Jolie-Pitt, Knox Jolie-Pitt, Vivienne Jolie-Pitt, Maddox Jolie-Pitt, Zahara Jolie-Pitt, Pax Jolie-Pitt |
Perthnasau | Chip Taylor, Barry Voight |
llofnod | |
Er iddi ddod ar y sgrin yn gychwynol ochr yn ochr a’i thad, Jon Voight yn y ffilm 1982 Lookin’ to Get Pit, fe ddechreuodd yrfa Jolie o ddifrif ddegawd yn ddiweddarach yn y cynhyrchiad Cyborg 2 (1993). Ei rôl blaenllaw gyntaf mewn ffilm fawr oedd yn Hackers (1995). Serennodd yn y ffilmiau bywgraffyddol George Wallace (1997) a Gia (1998), ac fe enillodd Academy Award for Best Supporting Actress am ei pherfformiad yn y ddrama Girl, Interrupted (1999). Cafodd Jolie fwy o enwogrwydd am ei phortread o’r arwres Lara Croft yn y ffilm Lara Croft: Tomb Raider (2001), ac er hynny mae hi wedi llwyddo i ddod yn un o’r actorion enwocaf ac un o'r rhai sy’n cael ei thalu fwyaf yn Hollywood. Mae hi wedi cael ei llwyddiannau mwyaf yn y ffilm Mr. & Mrs. Smith (2005) a’r ffilm Kung Fu Panda (2008.)
Bywyd personol
golyguWedi ysgaru â’r actorion Jonny Lee Miller a Billy Bob Thornton, cychwynnodd Jolie berthynas a’r actor Brad Pitt yn 2004 a phriododd y ddau yn Awst 2014. Mae eu perthynas wedi denu sylw'r cyfryngau ledled y byd a bathwyd y cyfansoddair 'Brangelina' Mabwysiadodd Jolie a Pitt tri plentyn, Maddox, Pax a Zahara, a mae ganddynt dry plentyn biolegol, Shiloh, Knox a Vivienne. Yn Medi 2016 cyhoeddwyd fod Jolie wedi gwneud cais am ysgariad.[6]
Ymhlith y gwobrau mae wedi'u hennill y mae:
- Gwobr Saturn am yr Actores Orau
- Gwobr People's Choice
- Dinesydd Anrhydeddus Sarajevo[7]
- Gwobr Dinesydd y Byd, Sergio Vieira de Mello
- Gwobr Rhyddid
- Gwobr Dyneiddiaeth Jean Hersholt[8]
- Duges-Gadlywydd Urdd y Seintiau Mihangel a Sior
- Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau
- Gwobr y Golden Globe am Actores Orau – Cyfres Fer neu Ffilm Deledu
- Gwobr y Golden Globe am Actores Orau – Cyfres Fer neu Ffilm Deledu
- Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd
- Gwobr Kids 2015
- Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol i'r Newydd-ddyfodiad Gorau
- Gwobr y Screen Actors Guild am Berfformiad Arbennig i Actores mewn Cyfres Fer neu Ffilm
- Gwobr y Screen Actors Guild am Berfformiad Arbennig i Actores mewn Rol Cefnogol
- Gwobrau Ffilm Hollywood
- Urdd San Fihangel a San Siôr
Ffilmiau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: 4 Mehefin 1975Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 "Angelina Jolie". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Angelina Jolie". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Angelina Jolie". "Angelina Jolie". "Angelina Jolie". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 4 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 "Angelina Jolie". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Angelina Jolie". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Angelina Jolie". "Angelina Jolie". "Angelina Jolie". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
- ↑ Brangelina ‘yn ysgaru’ , Golwg360, 20 Medi 2016. Cyrchwyd ar 21 Medi 2016.
- ↑ http://www.bbc.com/news/entertainment-arts-18760368.
- ↑ "Angelina Jolie Academy Awards Acceptance Speech". Cyrchwyd 29 Chwefror 2024.