Seryddwr a mathemategydd o India oedd Brahmagupta (598-670). Fe ystyriodd nifer o syniadau, sydd wedi eu derbyn fel rhan o fathemateg bellach. Ei brif gyflawniad ym maes mathemateg oedd cysyniad sero a rhifau negatif. Yn ei gampwaith Brahmasphutasiddhanta (628) (gellir cyfieithu'r teitl fel Dadorchuddio'r bydysawd), mae'n diffinio sero fel y canlyniad a geir pan mae rhif yn cael ei dynnu o'i hun - dyna oedd y diffiniad gorau o sero oedd i'w gael yn y dyddiau hynny. Mae'r Brahmasphutasiddhanta hefyd yn cynnwys yr enghraifft gyntaf a wyddys amdani o nod sero. Darparodd Brahmagupta reolau hefyd ar gyfer trin "cyfoeth" a "dyled" - sy'n cyfateb i rifau positif a negatif (ystyrir mai dyma'r defnydd hysbys cyntaf o rifau negatif). Roedd Dadorchuddio'r Bydysawd hefyd yn cynnwys algorithm ar gyfer cyfrifo ail isradd, dull ar gyfer datrys hafaliadau cwadratig, a ffurf seml ar nodiant algebraidd. Mae'r penodau eraill yn trin seryddiaeth - diffyg ar yr haul a diffyg ar y lleuad, cysylltiadau'r planedau, gweddau'r lleuad, a phenderfynu safle'r planedau.

Brahmagupta
Ganwydब्रह्मगुप्तः Edit this on Wikidata
c. 598 Edit this on Wikidata
Bhinmal, Ujjain Edit this on Wikidata
Bu farwc. 670 Edit this on Wikidata
Ujjain, Bhinmal Edit this on Wikidata
Man preswylBhinmal, Ujjain Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, seryddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBrahmagupta theorem, Brahmagupta matrix, Brahmagupta's formula, Brahmagupta–Fibonacci identity, Brahmagupta's interpolation formula, Brahmagupta polynomial, Brahmagupta's identity, Khandakhadyaka, Brāhmasphuṭasiddhānta, Brahmagupta's problem Edit this on Wikidata
TadJishnugupta Edit this on Wikidata

Gweler hefyd

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.