Roedd Zheng He (13711435), neu Cheng Ho fel yr ysgrifir ei enw weithiau, yn forwr o Tsieina a fu'n gyfrifol am nifer o fordeithiau i wahanol rannau o'r byd rhwng 1405 a 1424.

Zheng He
Ganwyd鄭和 Edit this on Wikidata
1371 Edit this on Wikidata
Kunming Edit this on Wikidata
Bu farw1433, 1435 Edit this on Wikidata
Nanjing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhinllin Ming Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, diplomydd, morlywiwr, eunuch, teithiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Hongxi Emperor
  • Xuande Emperor
  • Yongle Emperor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTreasure voyages Edit this on Wikidata
TadHajji Ma Edit this on Wikidata
PerthnasauSayyid Ajjal Shams al-Din Omar Edit this on Wikidata

Ei enw gwreiddiol oedd Ma Sanbao a ganwyd ef yn nhalaith Yunnan. Roedd yn Fwslim o ran crefydd. Pan goncrwyd Yunnan gan fyddin y frenhinllin Ming, cafodd Ma Sanbao ei gymeryd yn garcharor a'r wneud yn eunuch. Rhoddwyd yr enw Zheng He iddo yn ddiweddarach, a daeth yn gyfaill i'r Ymerawdr Yongle ac yn llynghesydd.

Aeth ar ei fordaith gyntaf yn 1405 gan alw mewn nifer o wledydd yn Ne-ddwyrain Asia. Un o'r mannau lle glaniodd oedd Semarang ar ynys Java, lle mae heddiw deml Sineaidd wedi ei chysegru iddo. Cynhaliwyd dathliadau yma yn 2005 i nodi chwe chan mlwyddiant ei ymweliad.

Mae'r Map Kangnido yn dyddio i 1402, felly cyn i Zheng He ddechrau ar ei fordeithiau. Mae'n dangos fod y Sineaid eisoes yn berchen ar gryn dipyn o wybodaeth am weledydd pellennig.

Yn y blynyddoedd nesaf bu Zheng He a'r swyddogion dan ei awdurdod yn gyfrifol am gyfres o fordeithiau, gan gyrraedd cyn belled ag India a Sri Lanca, Iran, arfordir dwyreiniol Affrica ac yn ôl pob tebyg arfordir gogleddol Awstralia. Roedd nifer fawr o longau yn hwylio gyda'i gilydd, er enghraifft yn 1405 yr oedd gan Zheng He 27,000 o ddynion mewn 317 o longau, rhai ohonynt yn llongau enfawr tua 120 medr (400 troedfedd) o hyd.

Bu farw'r Ymerawdr Yongle yn 1424 ac yn dilyn hyn bu newid polisi a daeth y mordeithiau mawr i ben. Bu farw Zheng He yn 1435.

Mae rhai awduron, er enghraifft Gavin Menzies, yn credu fod llongau Zheng He wedi cyrraedd yn llawer pellach na hyn, ei fod er enghraifft wedi cyrraedd America cyn Ferdinand Magellan a Christopher Columbus. Mae hyn yn bwnc dadleuol.

Llyfryddiaeth golygu