Brian Caswell

awdur

Awdur ffuglen i oedolion ifanc yw Brian Paul Caswell (geni 13 Ionawr 1954). Mae'n byw yn Awstralia bellach, ond yn hannu o Gymru

Brian Caswell
Ganwyd13 Ionawr 1954 Edit this on Wikidata
Gwernaffield Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • Prifysgol De Cymru Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, awdur plant Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Brian Caswell ym mhentref Gwernaffield Sir y Fflint, ar 13 Ionawr 1954[1] . Symudodd ei deulu i Loegr, pan oedd yn 5 mlwydd oed. Pan oedd yn 12 oed, ym 1966, symudodd teulu Caswell i De Cymru Newydd. Derbyniodd gradd BA a Diploma Addysg o Brifysgol De Cymru Newydd[2]. Yn y 1970au, dechreuodd Caswell i ganu a chyfansoddi caneuon, a bu'n llwyddiannus am rai blynyddoedd. Llwyddodd un o'i ganeuon i gyrraedd y 40 uchaf yn siartiau cerddoriaeth Awstralia ac enillodd Guitar Aur ar y cyd a'i frawd y cannwr gwlad Allan Caswell am gân y flwyddyn ym 1981[3]. Daeth yn athro ysgol ym 1976, gan roi'r gorau i berfformio, ond yn parhau i ysgrifennu caneuon.

Rhwng 1976 a 1990[4] bu Caswell yn gweithio fel athro a hyfforddwr pêl-fasged Bu'n athro hanes, Saesneg ac ysgrifennu creadigol mewn sawl ysgol uwchradd. Dechreuodd ysgrifennu ar gyfer ei ddisgyblion gan gyhoeddi ei lyfr cyntaf, Merryll of the Stones, ym 1989.[5] Rhoddodd y gorau i ddysgu ar ôl llwyddiant ei ddau lyfr cyntaf a dechreuodd ysgrifennu yn llawn-amser.

Ym 1998, dechreuodd weithio gyda'i ffrind a chydawdur David Chiem, i ddatblygu MindChamps - gwmni a sefydlwyd i ymchwilio i niwrowyddoniaeth a seicoleg addysg ac i ddatblygu strategaethau dysgu addas at ofynion yr 21ain Ganrif. Ers 2007 mae wedi ysgrifennu pum llyfr i rieni ac athrawon ar wahanol agweddau o addysg a datblygiad y meddylfryd dysgu..

Mae Caswell yn byw yn Fountaindale, De Cymru Newydd, gyda'i wraig, Marlene.

Llyfryddiaeth

golygu

Ffuglen:

  • Merryll of the Stones (1989)
  • A Dream of Stars (1991)
  • A Cage of Butterflies (1992)
  • Mike (1993)
  • Lisdalia (1994)
  • Dreamslip (1994)
  • Darryl (1995)
  • Deucalion (1995)
  • Maddie (1995)
  • Sweet Revenge (1995)
  • Asturias (1996)
  • Relax Max! (1997)
  • Only the Heart (1997), ar y cyd â  David Phu An Chiem.
  • Gargantua (1998)
  • Gladiators in the Holo-Colosseum (1998)
  • Messengers of the Great Orff (1998)
  • TeeDee and the Collectors, or How It All Began (1998)
  • The View from Ararat (1998)
  • The Full Story (2002) ar y cyd â  David Phu An Chiem.
  • Double Exposure (2005)
  • Loop (2006)
  • Cruisin' (2008)
  • The Dreams of the Chosen (2013)

Addysg a Dysgu:

  • Deeper than the Ocean (2007) ar y cyd â  David Phu An Chiem.
  • The Art of Communicating with Your Child (2009) ar y cyd â David Phu An Chiem
  • The 3-Mind Revolution (2009) ar y cyd â David Phu An Chiem (Ail argraffiad 2016).
  • Talking with the Sky (2010) ar y cyd â David Phu An Chiem a Kylie Bell.
  • Magic Moments: Small Beginnings (2013) ar y cyd â Carmee Lim.

Gwobrau ac anrhydeddau

golygu

Enwyd Merryll of the Stones, ei nofel gyntaf, yn Llyfr Anrhydedd gan Gyngor Llyfrau Plant Awstralia (CBC) ym 1990 yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn ar gyfer darllenwyr hŷn[6]. Cafodd ei ail nofel, A cage of butterflies, ei restru ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn CBC 1993, a Gwobr Llyfr Awdio y Flwyddyn. Ym 1995 derbyniodd Deucalion Gwobr Llenyddiaeth Heddwch y Plant[7], a Gwobr Aurealis ar gyfer Ffuglen Wyddoniaeth a Ffantasi (Adran Oedolion Ifanc). Roedd Deucalion hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn CBS 1996. Derbyniodd Lisdalia Gwobr Llenyddiaeth Amlddiwylliannol i Blant ym 1995, a chafodd ei ganmol yn fawr yng Ngwobrau Hawliau Dynol yr un flwyddyn.

Cyfeiriadau

golygu