Lloegr

Gwlad yng ngogledd Ewrop
(Ailgyfeiriad o Loegr)

Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd.

Lloegr
England
Mathgwledydd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAngliaid, tir Edit this on Wikidata
PrifddinasLlundain Edit this on Wikidata
Poblogaeth53,012,456, 57,106,398 Edit this on Wikidata
AnthemGod Save the King Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKeir Starmer Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Cymedrig Greenwich Edit this on Wikidata
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd130,278 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Alban, Cymru Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53°N 1°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE92000001 Edit this on Wikidata
GB-ENG Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethCharles III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKeir Starmer Edit this on Wikidata
Map
Arianpunt sterling Edit this on Wikidata

Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr.

Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mersia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr 8fed a'r 9g, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.

Nawddsant Lloegr: Sant Siôr - 23 Ebrill.

Rhanbarthau Lloegr

golygu

Mae naw rhanbarth yn Lloegr:

 
Y 'Rhaniad Gogledd-De', gyda Chanolbarth Lloegr, mewn gwyrdd, yn eu gwahanu.

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am Lloegr
yn Wiciadur.