Brian Hayward Bowditch

Mae Brian Hayward Bowditch (ganed 1961[1]) yn fathemategydd o Gymru sy'n nodedig am ei gyfraniad i feysydd geometreg a thopoleg, yn enwedig theori grŵp geometrig a thopoleg isel-ddimensiwn. Mae hefyd yn enwog am ddatrys "problem yr angel". Yn 2018 roedd Bowditch yn Athro mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Warwick.

Brian Hayward Bowditch
Ganwyd1961 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • David B. A. Epstein Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, topolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Whitehead Edit this on Wikidata

Ganed Bowditch yng Nghastell Nedd yn 1961.

Derbyniodd B.A. ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 1983 ac aeth ati i astudio ar gyfer Doethuriaeth ym Mhrifysgol Warwick, gan dderbyn PhD yn 1988, dan arolygaeth David Epstein.[2]

Anrhydeddau

golygu
  • Derbyniodd Wobr Whitehead gan Gymdeithas Mathemateg Llundain; 1997
  • Anerchodd Gynghrair Mathemtageg Ewrop yn 2004
  • Bu'n un o olygyddion y Annales de la Faculté des Sciences de Toulouse
  • Golygydd-ymgynghorydd i Gymdeithas Mathemateg Llundain.[3][4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Brian H. Bowditch: Me. Bowditch's personal information page at the University of Warwick
  2. Brian Hayward Bowditch at the Mathematics Genealogy Project
  3. Lynne Williams. "Awards" Times Higher Education, 24 Hydref 1997
  4. London Mathematical Society 2005 publications Archifwyd 27 Hydref 2005 yn y Peiriant Wayback London Mathematical Society. Accessed 15 Hydref 2008.