Mae Brian John Law (ganwyd 1 Ionawr 1970 ym Merthyr Tudful) yn gyn chwaraewr pêl-droed Cymreig proffesiynol sydd wedi chware yn rhyngwladol dros Gymru .

Brian Law
Manylion Personol
Enw llawn Brian John Law
Dyddiad geni (1970-01-01) 1 Ionawr 1970 (54 oed)
Man geni Merthyr Tudful, Baner Cymru Cymru
Taldra 6' 2"
Safle Amddiffynnwr
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
Queens Park Rangers F.C.
Wolverhampton Wanderers F.C.
Millwall F.C.
Tîm Cenedlaethol
1990 Cymru

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
.
* Ymddangosiadau

Gyrfa clwb golygu

Cychwynnodd Law ei yrfa gyda Queens Park Rangers gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Sheffield Wednesday yn Loftus Road yng ngêm derfynol tymor 1987. Gwnaeth cyfanswm o 20 o ymddangosiad dros ei glwb cyn cael ei orfodi i ymddeol yn 1991 o ganlyniad i anafiadau tendon. Ar ôl ymddeol bu Law yn treulio tair blynedd y tu allan i fyd pêl-droed ar daith bacpacio o amgylch y byd, cyn dychwelyd ym 1994 wedi canfod bod ei anaf yn gallu gwrthsefyll llymder pêl-droed proffesiynol. Ymunodd a Wolverhampton Wanderers, a bu'n yn ofynnol iddynt dalu iawndal o £34,000 ar ran Law i gwmni yswiriant a oedd wedi rhoi taliad iddo am orfod ymddeol trwy anaf; bu'n rhaid iddynt tau £100,000 i'w gyn-glwb Queens Park Rangers hefyd. Yn ystod ei amser gyda Wolverhampton cafodd Law ei arestio ar ôl gyrru bws tra'n feddw, gan dderbyn dirwy a chyfnod o wasanaeth cymunedol[1]

Ar ôl dechrau sefydlu ei hun yn y tîm cyntaf, gorfodwyd Law i dderbyn llawdriniaeth ailadeiladu ffêr gan fethu llwyddo i adennill ei le yn yr ochr wedi'r llawdriniaeth. Symudodd i Milwall ym 1997. Gwnaeth 47 o ymddangosiadau fel capten y clwb ym mhob gêm yn ystod ei dymor cyntaf yn The New Den a bu'n aelod rheolaidd o'r tîm cyntaf ar ddechrau'r tymor canlynol. Bu i anaf pen-glin ei orfodi allan o'r ochr ar ôl llai nag un mis o dymor 1998-99. Fe'i rhyddhawyd yn gan Millwall yn 2000 gan ddod a'i yrfa fel peldroediwr i ben. 

Gyrfa ryngwladol golygu

Bu Law yn chwarae i dîm bechgyn ysgol Cymru Dan 15. Bu'n aelod ac yn gapten ar garfanau o dan 16, dan 18, dan 21 yn ogystal â thîm B Cymru yn erbyn Lloegr yn Tranmere (5/12/90)[2]. Er nad oedd ond wedi chwarae ond llond llaw o gemau ar gyfer Queens Park Rangers, cafodd Law ei alw i chware i dîm hŷn Cymru ym mis medi 1988 gan wasanaethu fel eilydd heb ei ddefnyddio yn erbyn yr Iseldiroedd. Bu'n eilydd heb ei ddefnyddio eto mewn gemau yn erbyn yr Eidal a Malta. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar 25 Ebrill 1990 mewn tîm a gollodd 4-2 i Sweden.  Cafodd Law ei alw'n ôl i'r garfan, ar ôl ei seibiant 2 flynedd o'r gêm, ar gyfer gêm yn erbyn Bwlgaria ym mis Mawrth 1995 Pan gollodd Cymru 3 - 1.


Wedi pêl-droed golygu

Yn dilyn ei ymddeoliad, enillodd Law gradd mewn gwyddor Bwriad yr elusenau oedd i roi cyfle i bobl ifanc yn eu harddegau cael mynediad i chwaraeon fel pêl-droed, hoci a phêl stryd ym Mirmingham[3]. Bu'r elusen hefyd yn cynnig gweithdai cerddorol. Un o fynychwyr y gweithdai cerddorol oedd y cerddor C4 ft Romo a llwyddodd i gyrraedd rhif 7 yn y Siartiau Cerddoriaeth Drefol gyda'i gan'Detention' .[4]

Cyfeiriadau golygu

  • Hayes, Dean P. (2004). Wales The Complete Who's Who of Footballers Since 1946. Sutton Publishing Limited. ISBN 0-7509-3700-9.
  1. From the Wolves archive – when Brian Law nicked a bus adalwyd 20/05/2018
  2. QPR’S TOP TEN WALES INTERNATIONALS adalwyd 20/05/2018
  3. "Beginning a whole new life of Brian". Birmingham Mail. 2005-05-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-23. Cyrchwyd 2010-01-19.
  4. "Rapping for Darwin". London: The Sunday Times. 2009-08-19. Cyrchwyd 2010-01-19.