Agor y brif ddewislen

Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yw'r tîm sy'n cynrychioli Cymru mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Cymru
Shirt badge/Association crest
Conffederasiwn UEFA (Ewrop)
Hyfforddwr Ryan Giggs
Capten Ashley Williams
Mwyaf o Gapiau Chris Gunter (94)
Prif sgoriwr Gareth Bale (31)
Cod FIFA WAL
Safle FIFA 19 steady (7 Chwefror 2019)[1]
Safle FIFA uchaf 8 (Hydref 2015)
Safle FIFA isaf 117 (Awst 2011)
Safle Elo 21 (9 Medi 2018) [2]
Safle Elo uchaf 3 (1876–1885)
Safle Elo isaf 88 (25 Mai 2011)
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
Gêm ryngwladol gynaf
 yr Alban 4–0  Cymru
(Glasgow; 26 Mawrth 1876)
Y fuddugoliaeth fwyaf
 Cymru 11–0  Iwerddon
(Wrecsam; 3 Mawrth 1888)
Colled fwyaf
 yr Alban 9–0  Cymru
(Glasgow; 23 Mawrth 1878)
Cwpan FIFA y Byd
Ymddangosiadau 1 (Cyntaf yn 1958)
Canlyniad gorau Rownd Go-gynderfynol, 1958
Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop
Ymddangosiadau 1 (Cyntaf yn 2016)
Canlyniad gorau Rownd Gynderfynol, 2016
Cymru yn erbyn Gwlad Belg, Stadiwm Dinas Caerdydd, 12 Mehefin 2015

Tîm Cymru yw'r trydydd hynaf o holl dimau pêl-droed cenedlaethol y byd. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ar 25 Mawrth 1876 yn Glasgow. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru ar y Cae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1877, eto yn erbyn yr Alban.

Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed ddwywaith, sef Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 a phencampwriaeth Ewro 2016. Llwyddodd Cymru hefyd i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Bencampwriaethau Ewrop 1976, sef y flwyddyn olaf y cafodd gystadleuaeth honno ei chynnal dros ddau gymal.

Yn Ebrill 2013, agorodd Parc y Ddraig, Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, yng Nghasnewydd.

HanesGolygu

Y Blynyddoedd CynnarGolygu

Chwaraeodd Cymru ei gêm gystadleuol gyntaf ar 25 Mawrth 1876 yn erbyn yr Alban yn Glasgow gan ei gwneud y trydydd tîm pêl-droed rhyngwladol hyna'n y byd. Yr Alban enillodd y gêm gyntaf 4-0. Trefnwyd gêm gyfatebol yng Nghymru y flwyddyn ganlynol ac felly y cafwyd y gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf ar dir Cymru, ar Gae Ras Wrecsam ar 5 Mawrth 1882. Enillodd yr Alban eto, 2-0 y tro hwn. Roedd y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn 1879 pan welwyd Cymru'n colli 2-1 yn Kennington Oval, Llundain ac yn 1882 wynebodd Cymru Iwerddon am y tro cyntaf gan ennill 7-1 yn Wrecsam.

Cyfarfu cynrychiolwyr y pedair gwlad ym Manceinion ar 6 Ragfyr 1882 i greu rheolau a thrwy hyn sefydlwyd Bwrdd y Cymdeithasau Pêl-droed Rhyngwladol. Yn 1883-84 ffurfiwyd Pencampwriaeth Cartref Prydain, twrnameint a chwaraewyd yn flynyddol rhwng Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru hyd 1983-84. Bu Cymru'n bencampwr 12 gwaith.

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2014Golygu

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp A ar gyfer gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ynghŷd â Croatia, Serbia, Gwlad Belg, yr Alban a Macedonia. Ni lwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, gan orffen yn bumed yn y grŵp rhagbrofol.

Gemau Rhagbrofol Ewro 2016Golygu

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp B ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2016 ynghŷd ag Andorra, Gwlad Belg, Bosnia-Hertsegofina, Cyprus ac Israel. Ar 10 Hydref 2015, er colli yn erbyn Bosnia-Hertsegofina, llwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016, gan fod Cyprus wedi curo Israel. Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol ers Cwpan y Byd Pêl-droed 1958.[3] Gorffennodd Cymru yn ail yn y grŵp ar ôl curo Andorra o 2-0 yng Nghaerdydd ar 13 Hydref 2015.[4]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/e +/- P
  Gwlad Belg 10 7 2 1 24 5 +19 23
  Cymru 10 6 3 1 11 4 +7 21
  Bosnia-Hertsegofina 10 5 2 3 17 12 +5 17
  Israel 10 4 1 5 16 14 +2 13
  Cyprus 10 4 0 6 16 17 -1 12
  Andorra 10 0 0 10 4 36 -32 0
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2016
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle

Rowndiau Terfynol Ewro 2016Golygu

Ar 12 Rhagfyr 2015, tynnwyd enwau y timau i chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2016. Gosodwyd Cymru yng ngrŵp B, ynghyd â Lloegr, Rwsia a Slofacia.[5]

Ar 20 Mehefin 2016, llwyddodd Cymru i ennill Grŵp B, a chyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2016 wedi iddynt guro Rwsia o dair gôl i ddim.[6]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
  Cymru 3 2 0 1 6 3 +3 6
  Lloegr 3 1 2 0 3 2 +1 5
  Slofacia 3 1 1 1 3 3 0 4
  Rwsia 3 0 1 2 2 6 -4 1
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i'r 16 olaf
Posibilrwydd o gyrraedd yr 16 olaf (os yn un o'r pedwar tîm trydydd safle gorau)
 
Ar ôl cyrraedd rownd gyn-derfynol pencampwriaeth UEFA Euro 2016, dychwelodd Tîm Pêl-droed Cymru i Gymru gan fynd ar daith bws agored drwy ganol dinas Caerdydd.

Ar 22 Mehefin, cyhoeddwyd y byddai Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon ym Mharis ar 25 Mehefin 2016 yn rownd yr 16 olaf. Enillodd Cymru y gêm 1-0, gan sicrhau eu lle yn y rownd go-gynderfynol.[7] Enillodd Cymru'r rownd honno o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg[8], gan sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol cystadleuaeth bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf erioed. Portiwgal oedd gwrthwynebwyr Cymru yn y rownd gynderfynol. Nid oedd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn gallu chwarae oherwydd gwaharddiad, wedi iddynt dderbyn dau gerdyn melyn yr un yn ystod y gystadleuaeth. Cafwyd gêm agos, ond colli 2-0 fu hanes Cymru, gan roi terfyn ar y freuddwyd o gyrraedd y rownd derfynol.[9]

Dychwelodd carfan Cymru a'r tîm hyfforddi i Gymru ar 8 Gorffennaf 2016. Ar ôl glanio ym Maes Awyr Caerdydd, teithiodd y garfan i Gastell Caerdydd, lle roedd torfeydd o filoedd yn aros i'w croesawu. Teithiodd y chwaraewyr ar fws to agored drwy ganol y brifddinas, gan orffen yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle cynhaliwyd cyngerdd gan amrywiol artistiaid, gan gynnwys y Manic Street Preachers a Kizzy Crawford.[10]

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018Golygu

Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngemau Rhagbrofol Ewro 2016, gosodwyd Cymru ymhlith y deg tîm gorau yn y Byd yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf erioed ym mis Gorffennaf 2015. Golygodd hynny fod Cymru ymhlith y detholion uchaf ar gyfer dewis y grwpiau ar gyfer Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018. Fe dynnwyd enwau'r timau ar 25 Gorffennaf 2015 yn St Petersburg, Rwsia. Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp D ynghyd ag Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldofa a Georgia.[11]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
  Serbia 10 6 3 1 20 10 +10 21
  Iwerddon 10 5 4 1 12 6 +6 19
  Cymru 10 4 5 1 13 6 +7 17
  Awstria 10 4 3 3 14 12 +2 15
  Georgia 10 0 5 5 8 14 -6 5
  Moldofa 10 0 2 8 4 23 -19 2
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2018-19Golygu

Fe osodwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yng Ngrŵp 4, Cynghrair B y gystadleuaeth gychwynnol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn 2018-19. Ynghyd ag Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc.[12]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
  Denmarc 4 2 2 0 4 1 +3 8
  Cymru 4 2 0 2 6 5 +1 6
  Iwerddon 4 0 2 2 1 5 -4 2
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Dyrchafiad i Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Gostwng i Gynghrair C Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Gemau Rhagbrofol Ewro 2020Golygu

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp E ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2020 ynghŷd ag Aserbaijan, Croatia, Hwngari a Slofacia. Fe fydd y ddau dîm fydd ar frîg y tabl ar ddiwedd y rowndiau rhagbrofol yn symud yn uniongyrchol i rowndiau terfynnol Ewro 2020.

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/e +/- P
  Croasia 5 3 1 1 10 5 +5 10
  Slofacia 5 3 0 2 9 7 +2 9
  Hwngari 5 3 0 2 7 6 +1 9
  Cymru 4 2 0 2 4 4 0 6
  Aserbaijan 5 0 1 4 5 13 -8 1

Cywir ar 9 Medi 2019

Allwedd i liwiau'r tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2020

Canlyniadau Diweddar a Gornestau'r DyfodolGolygu

Dyddiad Cystadleuaeth Canlyniad
15 Hydref 2013 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014   Gwlad Belg 1 - 1   Cymru
16 Tachwedd 2013 Cyfeillgar   Cymru 1 - 1   Y Ffindir
5 Mawrth 2014 Cyfeillgar   Cymru 3 - 1   Gwlad yr Iâ
4 Mehefin 2014 Cyfeillgar   Yr Iseldiroedd 2 - 0   Cymru
9 Medi 2014 Rhagbrofol Ewro 2016   Andorra 1 - 2   Cymru
10 Hydref 2014 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 0 - 0   Bosnia-Hertsegofina
13 Hydref 2014 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 2 - 1   Cyprus
16 Tachwedd 2014 Rhagbrofol Ewro 2016   Gwlad Belg 0 - 0   Cymru
28 Mawrth 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Israel 0 - 3   Cymru
12 Mehefin 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 1 - 0   Gwlad Belg
3 Medi 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Cyprus 0 - 1   Cymru
6 Medi 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 0 - 0   Israel
10 Hydref 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Bosnia-Hertsegofina 2 - 0   Cymru
13 Hydref 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 2 - 0   Andorra
13 Tachwedd 2015 Cyfeillgar   Cymru 2 - 3   Yr Iseldiroedd
24 Mawrth 2016 Cyfeillgar   Cymru 1 - 1   Gogledd Iwerddon
28 Mawrth 2016 Cyfeillgar   Wcrain 1 - 0   Cymru
5 Mehefin 2016 Cyfeillgar   Sweden 3 - 0   Cymru
11 Mehefin 2016 Ewro 2016   Cymru 2 - 1   Slofacia
16 Mehefin 2016 Ewro 2016   Lloegr 2 - 1   Cymru
20 Mehefin 2016 Ewro 2016   Rwsia 0 - 3   Cymru
25 Mehefin 2016 Ewro 2016 (Rownd yr 16 Olaf)   Cymru 1 - 0   Gogledd Iwerddon
1 Gorffennaf 2016 Ewro 2016 (Rownd Gogynderfynol)   Cymru 3 - 1   Gwlad Belg
6 Gorffennaf 2016 Ewro 2016 (Rownd Gynderfynol)   Portiwgal 2 - 0   Cymru
5 Medi 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 4 - 0   Moldofa
6 Hydref 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Awstria 2 - 2   Cymru
9 Hydref 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 1 - 1   Georgia
12 Tachwedd 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 1 - 1   Serbia
24 Mawrth 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Iwerddon 0 - 0   Cymru
11 Mehefin 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Serbia 1 - 1   Cymru
2 Medi 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 1 - 0   Awstria
5 Medi 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Moldofa 0 - 2   Cymru
6 Hydref 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Georgia 0 - 1   Cymru
9 Hydref 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 0 - 1   Iwerddon
10 Tachwedd 2017 Cyfeillgar   Ffrainc 2 - 0   Cymru
14 Tachwedd 2017 Cyfeillgar   Cymru 1 - 1   Panama
22 Mawrth 2018 Cwpan Tsiena 2018   Gweriniaeth Pobl Tsieina 0 - 6   Cymru
26 Mawrth 2018 Cwpan Tsiena 2018   Wrwgwái 1 - 0   Cymru
29 Mai 2018 Cyfeillgar   Mecsico 0 - 0   Cymru
6 Medi 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA   Cymru 4 - 1   Iwerddon
9 Medi 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA   Denmarc 2 - 0   Cymru
11 Hydref 2018 Cyfeillgar   Cymru 1 - 4   Sbaen
16 Hydref 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA   Iwerddon 0 - 1   Cymru
16 Tachwedd 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA   Cymru 1 - 2   Denmarc
20 Tachwedd 2018 Cyfeillgar   Albania 1 - 0   Cymru
20 Mawrth 2019 Cyfeillgar   Cymru 1 - 0   Trinidad a Thobago
24 Mawrth 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Cymru 1 - 0   Slofacia
8 Mehefin 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Croasia 2 - 1   Cymru
11 Mehefin 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Hwngari 1 - 0   Cymru
6 Medi 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Cymru 2 - 1   Aserbaijan
10 Medi 2019 Cyfeillgar   Cymru 1 - 0   Belarws
10 Hydref 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Slofacia   Cymru
13 Hydref 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Cymru   Croasia
16 Tachwedd 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Aserbaijan   Cymru
19 Tachwedd 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Cymru   Hwngari

ChwaraewyrGolygu

Carfan ddiweddarafGolygu

Enwodd Ryan Giggs y garfan 23-dyn canlynol ar gyfer y gem yn erbyn Belarws.

Capiau a goliau yn dilyn 9 Medi 2019

0#0 Safle Chwaraewr Dyddiad geni (oed) Capiau Goliau Clybiau
1 1G Wayne Hennessey (1987-01-24) 24 Ionawr 1987 (32 oed) 85 0   Crystal Palace
12 1G Danny Ward (1993-06-22) 22 Mehefin 1993 (26 oed) 7 0   Leicester City
21 1G Adam Davies (1992-07-17) 17 Gorffennaf 1992 (27 oed) 1 0   Stoke City
2 2AM Chris Gunter (1989-07-21) 21 Gorffennaf 1989 (30 oed) 96 0   Reading
4 2AM Ben Davies (1993-04-24) 24 Ebrill 1993 (26 oed) 48 0   Tottenham Hotspur
14 2AM Connor Roberts (1995-09-23) 23 Medi 1995 (24 oed) 12 1   Dinas Abertawe
18 2AM Ethan Ampadu (2000-09-14) 14 Medi 2000 (19 oed) 9 0   RB Leipzig
5 2AM Chris Mepham (1997-11-05) 5 Tachwedd 1997 (21 oed) 8 0   Bournemouth
16 2AM Tom Lockyer (1994-12-03) 3 Rhagfyr 1994 (24 oed) 6 0   Charlton Athletic
6 2AM Joe Rodon (1997-10-22) 22 Hydref 1997 (21 oed) 2 0   Dinas Abertawe
7 3CC Joe Allen (1990-03-14) 14 Mawrth 1990 (29 oed) 53 2   Stoke City
17 3CC Jonathan Williams (1993-10-09) 9 Hydref 1993 (26 oed) 19 0   Charlton Athletic
10 3CC Harry Wilson (1997-03-22) 22 Mawrth 1997 (22 oed) 13 2   Bournemouth
8 3CC Matthew Smith (1999-11-22) 22 Tachwedd 1999 (19 oed) 7 0   Queens Park Rangers
20 3CC Daniel James (1997-11-10) 10 Tachwedd 1997 (21 oed) 6 2   Manchester United
23 3CC Will Vaulks (1993-09-13) 13 Medi 1993 (26 oed) 4 0   Dinas Caerdydd
15 3CC Joe Morrell (1997-01-03) 3 Ionawr 1997 (22 oed) 1 0   Lincoln City
3 3CC Dylan Levitt (2000-11-17) 17 Tachwedd 2000 (18 oed) 0 0   Manchester United
11 4YM Gareth Bale (1989-07-16) 16 Gorffennaf 1989 (30 oed) 79 32   Real Madrid
9 4YM Sam Vokes (1989-10-21) 21 Hydref 1989 (29 oed) 64 11   Stoke City
22 4YM Ben Woodburn (1999-10-15) 15 Hydref 1999 (20 oed) 10 2   Oxford United
19 4YM Ryan Hedges (1995-07-08) 8 Gorffennaf 1995 (24 oed) 3 0   Aberdeen
13 4YM Kieffer Moore (1992-08-08) 8 Awst 1992 (27 oed) 1 0   Wigan Athletic


Chwaraewyr eraill a alwyd i'r garfan yn ddiweddarGolygu

0#0 Safle Chwaraewr Dyddiad geni (oed) Capiau Goliau Clybiau
2AM Adam Henley (1994-06-14) 14 Mehefin 1994 (25 oed) 2 0   Blackburn Rovers
2AM Adam Matthews (1992-01-13) 13 Ionawr 1992 (27 oed) 13 0   Sunderland
2AM Morgan Fox (1993-09-21) 21 Medi 1993 (26 oed) 0 0   Charlton Athletic
2AM Sam Ricketts (1981-10-11) 11 Hydref 1981 (38 oed) 52 0   Coventry City
2AM James Lawrence (1992-08-22) 22 Awst 1992 (27 oed) 3 0   Anderlecht
6 2AM Ashley Williams (Capten) (1984-08-23) 23 Awst 1984 (35 oed) 85 2   Stoke City
2AM Paul Dummett (1991-09-26) 26 Medi 1991 (28 oed) 5 0   Newcastle United
2AM Declan John (1995-06-30) 30 Mehefin 1995 (24 oed) 7 0   Dinas Abertawe
2AM Jazz Richards (1991-04-12) 12 Ebrill 1991 (28 oed) 14 0   Dinas Caerdydd
2AM James Chester (1989-01-23) 23 Ionawr 1989 (30 oed) 34 0   Aston Villa F.C.
3 2AM Neil Taylor (1989-02-07) 7 Chwefror 1989 (30 oed) 39 1   Aston Villa
6 2AM Joe Walsh (1989-05-13) 13 Mai 1989 (30 oed) 0 0   MK Dons
14 3CC David Edwards (1986-02-03) 3 Chwefror 1986 (33 oed) 38 3   Wolverhampton Wanderers
3CC Emyr Huws (1993-09-30) 30 Medi 1993 (26 oed) 9 1   Dinas Caerdydd
16 3CC Joe Ledley (1987-01-23) 23 Ionawr 1987 (32 oed) 72 4   Crystal Palace
8 3CC Andy King (1988-10-29) 29 Hydref 1988 (30 oed) 49 2   Caerlyr
3CC David Brooks (1997-07-08) 8 Gorffennaf 1997 (22 oed) 10 0   Bournemouth
10 3CC Aaron Ramsey (1990-12-26) 26 Rhagfyr 1990 (28 oed) 56 14   Arsenal
3CC Shaun MacDonald (1988-06-17) 17 Mehefin 1988 (31 oed) 4 0   Wigan Athletic
3CC Lloyd Isgrove (1993-12-01) 1 Rhagfyr 1993 (25 oed) 1 0   Barnsley
22 3CC David Vaughan (1983-02-18) 18 Chwefror 1983 (36 oed) 43 1   Nottingham Forest
3CC Jordan Williams (1995-11-06) 6 Tachwedd 1995 (23 oed) 0 0   Swindon Town
4YM Tom Bradshaw (1992-07-27) 27 Gorffennaf 1992 (27 oed) 1 0   Walsall
4YM Wes Burns (1994-11-23) 23 Tachwedd 1994 (24 oed) 0 0   Fleetwood Town
23 4YM Simon Church (1988-12-10) 10 Rhagfyr 1988 (30 oed) 38 3   MK Dons
17 3CC David Cotterill (1987-12-04) 4 Rhagfyr 1987 (31 oed) 23 2   Birmingham City
9 4YM Hal Robson-Kanu (1989-05-21) 21 Mai 1989 (30 oed) 40 4   West Bromwich Albion
4YM Tom Lawrence (1994-01-13) 13 Ionawr 1994 (25 oed) 17 3   Derby County
4YM Sam Vokes (1989-10-21) 21 Hydref 1989 (29 oed) 60 11   Burnley F.C.
13 4YM George Williams (1995-09-07) 7 Medi 1995 (24 oed) 7 0   MK Dons
20 3CC Jonathan Williams (1993-10-09) 9 Hydref 1993 (26 oed) 17 0   Crystal Palace

Prif sgorwyrGolygu

Cywir ar 9 Medi 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n dal i chwarae mewn print trwm):

# Enw Goliau Capiau Cyfartaledd
1 Gareth Bale 32 79 0.41
2 Ian Rush 28 73 0.38
3 Trevor Ford 23 38 0.61
Ivor Allchurch 23 68 0.34
5 Dean Saunders 22 75 0.29
6 Craig Bellamy 19 78 0.24
7 Robert Earnshaw 16 58 0.28
Cliff Jones 16 59 0.27
Mark Hughes 16 72 0.22
10 John Charles 15 38 0.39

Mwyaf o GapiauGolygu

Cywir ar 9 Medi 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

# Name First/Latest Cap Caps Goals
1 Chris Gunter 2007– 96 0
2 Neville Southall 1982–1997 92 0
3 Ashley Williams 2007– 86 2
4 Gary Speed 1990–2004 85 7
Wayne Hennessey 2007– 85 0
6 Gareth Bale 2006– 79 32
7 Craig Bellamy 1998–2013 78 19
8 Joe Ledley 2007– 77 4
9 Dean Saunders 1986–2001 75 22
10 Peter Nicholas 1979–1991 73 2
Ian Rush 1980–1996 73 28 12 Mark Hughes 1984–1999 72 16
Joey Jones 1975–1986 72 1

Chwaraewyr Eraill gyda 50 neu fwy o gapiauGolygu

Cywir ar 9 Medi 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

RheolwyrGolygu

Cyn 1954 roedd tim o ddewiswyr, gyda'r capten hefyd yn hyforddwr.

Enw Arbenigedd
  Walley Barnes 1954–1955
  Jimmy Murphy 1956–1964
  Dave Bowen 1964–1974
  Ron Burgess 1965 (llenwi bwlch am un gem, oherwydd salwch Dave Bowen)
  Mike Smith 1974–1979
  Mike England 1979–1987
  David Williams 1988 (llenwi bwlch am un gem)
  Terry Yorath 1988–1993
  John Toshack 1994
  Mike Smith 1994–1995
  Bobby Gould 1995–1999
  Neville Southall 1999 (llenwi bwlch am un gem)
  Mark Hughes 1999–2004
  John Toshack 2004–2010
  Brian Flynn 2010 (llenwi bwlch am ddwy gem)
  Gary Speed 2010–2011
  Chris Coleman 2012–2017
  Ryan Giggs 2018–presennol

CyfeiriadauGolygu

  1. Safleoedd FIFA
  2. Safleoedd ELO
  3. BBC Cymru
  4. Golwg360
  5. BBC Cymru
  6. "Cymru ar y ffordd i Baris". BBC Cymru. 2016-06-20. Cyrchwyd Mehefin 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  7. "Cymru 1-0 Gogledd Iwerddon: Cyrraedd yr 8 olaf". BBC Cymru. 2016-06-26. Cyrchwyd Mehefin 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  8. "Cymru v Gwlad Belg – fel digwyddodd". The Guardian. 2016-07-01. Cyrchwyd Gorffennaf 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  9. "Cymru allan o Euro 2016 wedi colled yn erbyn Portiwgal". BBC Cymru. 2016-07-06. Cyrchwyd Gorffennaf 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  10. "Croeso'n ôl i Garfan Cymru". BBC Cymru. 2016-07-08. Cyrchwyd Gorffennaf 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  11. "Cwpan y Byd 2018: Cymru'n dechrau'r ymgyrch yn erbyn Moldofa". Golwg360. 2015-07-26. Cyrchwyd Awst 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  12. . BBC Cymru. 2017-10-11 Cynghrair y Cenhedloedd: Ail haen i Gymru https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/41580531: Cynghrair y Cenhedloedd: Ail haen i Gymru Check |url= value (help). Cyrchwyd Hydref 2018. Check date values in: |accessdate= (help); Missing or empty |title= (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.