Britannia Inferior
Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Britannia Inferior ("Prydain Isaf"). Roedd yn un o'r ddwy dalaith a grewyd tua 197 OC, pan rannodd yr ymerawdwr Septimius Severus dalaith Britannia yn ddwy; y dalaith arall oedd Britannia Superior.
Math | Talaith Rufeinig |
---|---|
Prifddinas | Eboracum |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Britannia |
Gwlad | Rhufain hynafol |
Cyfnod daearegol | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Roedd prifddinas Britannia Inferior yn Eboracum (Efrog), ac roedd yn cynnwys rhan ogleddol Lloegr. Yn Londinium (Llundain) yr oedd prifddinas Britannia Superior, oedd yn cynnwys rhan ddeheuol Lloegr a'r cyfan o Gymru, ond nid oes sicrwydd ymhle yr oedd y ffin rhwng y ddwy dalaith.
Tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian, rhannwyd talaith Britannia Inferior yn ddwy: Britannia Secunda a Flavia Caesariensis.