Talaith Rufeinig (Lladin: provincia, ll. provinciae) oedd uned lywodraethol fwyaf yr Ymerodraeth Rufeinig am rai canrifoedd. Sefydlwyd y taleithiau cyntaf yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain. Y gyntaf o'r taleithiau tramor oedd ynys Sicilia.

Taleithiau yr ymerodraeth Rufeinig yn 117, ar ddiwedd teyrnasiad Trajan

Rheolid y taleithiau gan lywodraethwr, oedd fel rheol wedi dal swydd conswl neu praetor cyn cael eu penodi'n llywodraethwyr. Roedd talaith Aegyptus (yr Aifft) yn wahanol, gan fod ei llywodraethwr o safle cymdeithasol fymryn yn is, un o'r ecwestriaid. Yng ngyfnod y weriniaeth, dim ond am flwyddyn yr oedd llywodraethwr yn dal ei swydd, ac wedi hynny ni allai fod yn llywodraethwr eto am ddeng mlynedd. Rhennid y taleithiau ar dechrau'r flwyddyn gan y Senedd.

Newidiodd yr ymerawdwr cyntaf, Augustus, y drefn yma. Cymerodd ef yr hawl i benodi llywodraethwyr y taleithiau pwysicaf, yn enwedig y taleithiau ar ffiniau'r ymerodraeth, lle gwersyllid yn rhan fwyaf o'r llengoedd. Gelwid y rhain y taleithiau ymerodrol. Cadwodd y Senedd yr hawl i benodi llywodraethwyr y taleithiau llai pwysig, y taleithiau seneddol. Yng nghyfnod yr ymerodraeth, gallai llywodraethwyr fod yn eu swyddi am rai blynyddoedd.

Newidiwyd y drefn gan yr ymerawdwr Diocletian, a ddaeth yn ymerawdwr yn 284 ar ddiwedd y cyfnod a elwir yn argyfwng y drydedd ganrif. Tua 296, rhannodd ef rai o'r taleithiau, i greu 96 talaith, oedd wedi eu rhannu'n 12 rhanbarth diocesis.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia