Britannia Secunda
Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Britannia Secunda. Roedd yn un o'r pedair talaith a grewyd tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian; y tair arall oedd Britannia Prima, Maxima Caesariensis a Flavia Caesariensis.
Math | Talaith Rufeinig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Britannia Inferior ![]() |
Gwlad | Rhufain hynafol ![]() |
Cyfnod daearegol | yr Ymerodraeth Rufeinig ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/df/Roman_Fortifications_in_Museum_Gardens_York.jpg/240px-Roman_Fortifications_in_Museum_Gardens_York.jpg)
Roedd Britannia Secunda yn cynnwys gogledd Lloegr, ac mae'n bosibl ei bid yn cynnwys rhan o ogledd Cymru. Roedd ei phrifddinas yn Efrog (Eboracum). Yn 369, crëwyd talaith newydd, Valentia. Mae ei lleoliad yn ansicr, ond efallai ei bod wedi ei chreu o ran o diriogaeth Britannia Secunda.