Talaith Rufeinig ym Mhrydain oedd Valentia. Cafodd ei sefydlu yn y flwyddyn 369. Mae ei lleoliad yn ansicr.

Enwyd y dalaith newydd ar ôl Valentinian a Valens, ymerodron Rhufain ar y pryd. Fe'i crewyd fel rhan o ad-drefnu gweinyddiaeth Britannia gan y Cownt Theodosius. Yn ôl y ddogfen a adnabyddir fel y Notitia Dignitatum, roedd ganddi consularis Rhufeinig fel llywodraethwr.[1]

Mae lleoliad Valentia yn ansicr. Credai rhai ysgolheigion ar un adeg ei bod yn cyfateb i iseldiroedd yr Alban, rhwng Mur Hadrian a Mur Anton, ond gwyddys mai Mur Hadrian oedd ffin swyddogol Britannia yn y cyfnod hwnnw. Posiblrwydd arall yw rhan o ogledd Lloegr neu ogledd Cymru. Yn erbyn yr olaf mai'r ffaith fod yr ardal yn rhy fychan i haeddu cael swyddog uchel fel consularis fel llywodraethwr, er bod gwaith adnewyddu caer Segontium yn dangos gweithgarwch gan y Rhufeiniaid yno. Yng ngogledd Lloegr mae'r ardal o gwmpas Caerliwelydd yn cael ei hawgrymu, ond ni ellir profi'r ddamcaniaeth honno ar hyn o bryd.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Sheppard Frere, Britannia (Routledge & Kegan Paul, 1967; argraffiad newydd 1973), tud. 212.
  2. Britannia, tud. 212.