British and Colonial Kinematograph Company

Cwmni ffilm Prydeinig a ffurfiwyd yn 1909 oedd y British and Colonial Kinematograph Company. Yn ogystal â'r enw llawn roedd yn gwneud ffilmiau dan yr enwau B&C, B and C, B & C Film a British and Colonial Films yn ogystal.

British and Colonial Kinematograph Company
Enghraifft o'r canlynolcwmni cynhyrchu ffilmiau Edit this on Wikidata
Daeth i ben1924 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1909 Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Rhwng 1909 a 1924 pan alwyd y credydwyr i mewn, cynhyrchwyd 317 o ffilmiau di-sain gan y cwmni. Sefydlwyd B&C gan A.H. Bloomfield a J.B. McDowell. Ym mlynyddoedd cynnar y cwmni roedd yn enwog am ei ffilmiau nodwedd, yn arbennig y gyfres "Lieutenant Daring" gyda Percy Morgan yn cymryd y brif ran. Roedd gan Bloomfield a McDowell stiwdios yn Newstead House, yn Nwyrain Finchley, Llundain.

Erbyn 1912 roeddynt yn saethu ffilmiau hirach ac yn defnyddio llawer o ffilm footage a saethwyd ar leoliad, rhai ohonynt wedi saethu gan Fred Burlingham a adawodd y cwmni yn 1914 i ffurfio ei gwmni ei hun (Burlingham Films) ar ôl i B&C symud i stiwdios newydd yn Walthamstow yn 1913.

Saethodd B&C sawl ffilm o ddiddordeb Cymreig, yn cynnwys pedair melodrama a saethwyd yn ystod 1912 gan y cyfarwyddwr Sidney Northgate, sef The Pedlar of Penmaenmawr, The Smuggler's Daughter of Anglesea, The Belle of Bettws-y-Coed a The Witch of the Welsh Mountains.

Un arall o gynhyrchiadau'r cwmni o ddiddordeb Cymreig oedd y ffilm The Last King of Wales, sy'n portreadu blynyddoedd olaf Llywelyn Ein Llyw Olaf.

Caewyd y cwmni yn 1924.