Brodwaith Bayeux
Brodwaith enwog o'r 11g a luniwyd ar gyfer Eglwys gadeiriol Bayeux, yn Normandi, Ffrainc, i ddathlu buddugoliaeth Dug Gwilym ym Mrwydr Hastings a goresgyniad Lloegr gan y Normaniaid yw Brodwaith Bayeux.

Rhan o Frodwaith Bayeux yn dangos y Dug Gwilym
Mae'r brodwaith, sy'n 69 m (231 troedfedd) o hyd, yn rhoi hanes darluniadol goresgyniad Lloegr gan y Normaniaid gan ddechrau gydag ymweliad Harold II, brenin Lloegr â Normandi a gorffen gyda Brwydr Hastings yn 1066. Mae o werth hanesyddol mawr. Cafodd ei gomisynu gan Odo, Esgob Bayeux, hanner-brawd Dug Gwilym (Gwilym Gwncwerwr). Yn ôl traddodiad, cafodd ei wneud gan Mathilda, gwraig Gwilym, ond credir erbyn hyn iddo gael ei lunio gan grefftwyr Normanaidd yn Lloegr ar ôl y Goresgyniad.
Gellir gweld Brodwaith Bayeux yn amgueddfa Bayeux.