Brough, Dwyrain Swydd Efrog

tref yn Nwyrain Swydd Efrog

Tref fach yn Nwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Brough.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Elloughton-cum-Brough yn awdurdod unedol Riding Dwyreiniol Swydd Efrog. Saif ar lan ogleddol Afon Humber tua 12 milltir (19 km) i'r gorllewin o ddinas Kingston upon Hull.

Brough
Mathtref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolElloughton-cum-Brough
Daearyddiaeth
SirDwyrain Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.7281°N 0.5732°W Edit this on Wikidata
Cod OSSE942266 Edit this on Wikidata
Cod postHU15 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Brough boblogaeth o 12,472.[2]

Yn ystod y cyfnod Rhufeinig, enw'r dref oedd Petuaria, ac roedd yn brifddinas llwyth Celtaidd y Parisii. Roedd yn sefyll ym mhen deheuol y ffordd Rufeinig Ffordd Cade a oedd yn ymestyn tua 100 milltir i'r gogledd i Pons Aelius (Newcastle upon Tyne bellach).

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 16 Mehefin 2020
  2. City Population; adalwyd 16 Mehefin 2020


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddwyrain Swydd Efrog. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato