Parisii (Lloegr)
Llwyth Celtaidd yng ngogledd Lloegr oedd y Parisii, yn yr ardal sy'n cyfateb, bellach, i Dwyrain Swydd Efrog (Saesneg: East Riding of Yorkshire). Roeddent yn perthyn yn agos iawn i lwyth arall o'r un enw (gweler: Parisii (Gâl)) a sefydlodd yn ardal Paris. Yr enw Lladin ar eu brenhiniaeth neu civitas oedd Parisiorum, a'r brifddinas oedd Petuaria, sef y ddinas fodern a elwir Brough.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig ![]() |
---|---|
Gwladwriaeth | Britannia ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c1/Map_of_the_Territory_of_the_Parisii.svg/300px-Map_of_the_Territory_of_the_Parisii.svg.png)
I'r gogledd a'r gorllewin, eu cymdogion oedd y Brigantes, ac i'r de roedd llwyth Celtaidd y Corieltauvi - dros afon Humber.
Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, ailstrwythurwyd yr ardal Parisiorum dan yr enw Deifr a ddaeth yn deyrnas gref a phwerus.