Riding Dwyreiniol Swydd Efrog (awdurdod unedol)
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Dwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Riding Dwyreiniol Swydd Efrog (Saesneg: East Riding of Yorkshire).
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, ardal cyngor sir ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 339,614 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyrain Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,405.3217 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 53.91667°N 0.5°W ![]() |
Cod SYG | E06000011 ![]() |
GB-ERY ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of East Riding of Yorkshire Council ![]() |
![]() | |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 2,408 km², gyda 341,173 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Kingston upon Hull i'r de, yn ogystal â siroedd Gogledd Swydd Efrog i'r gogledd a'r gorllewin, De Swydd Efrog i'r de-orllewin, a Swydd Lincoln i'r de.

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd yr hen sir Humberside. Cyn creu Humberside ym 1974 roedd yr ardal hon wedi bod yn rhan o Riding Dwyreiniol Swydd Efrog, un o dri israniad hanesyddol Swydd Efrog.
Rhennir y fwrdeistref yn 171 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Beverley. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bridlington, Brough, Driffield, Goole, Hedon, Hessle, Hornsea, Howden, Market Weighton, Pocklington, Snaith, South Cave a Withernsea.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ City Population; adalwyd 7 Ionawr 2021