Isambard Kingdom Brunel
peiriannydd mecanyddol a sifil Prydeinig (1806-1859)
(Ailgyfeiriad o Brunel)
Peiriannydd Seisnig oedd Isambard Kingdom Brunel (9 Ebrill 1806 – 15 Medi 1859).
Isambard Kingdom Brunel | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ebrill 1806 Portsmouth |
Bu farw | 15 Medi 1859 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, peiriannydd mecanyddol, pensaer, peiriannydd, peiriannydd rheilffyrdd |
Adnabyddus am | Royal Albert Bridge, Clifton Suspension Bridge, Rheilffordd y Great Western, SS Great Britain, SS Great Eastern, SS Great Western |
Tad | Marc Isambard Brunel |
Mam | Sophia Kingdom |
Priod | Mary Elizabeth Horsley |
Plant | Henry Marc Brunel, Isambard Brunel, merch anhysbys Brunel |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |
Ganed ef yn Portsmouth, yn fab i'r peiriannydd Marc Isambard Brunel, oedd yn Ffrancwr alltud. Erbyn oedd yn 20 oed, roedd yn gyfrifol am adeiladu Twnnel Tafwys, dan afon Tafwys yn Llundain, y twnnel cyntaf dan afon oedd yn ddigon mawr i'w defnyddio gan longau.
Bu'n gyfrifol am nifer o bontydd adnabyddus, yn cynnwys Pont Grog Clifton ger afon Avon gerllaw Bryste. Ef oedd prif beiriannydd Rheilffordd y Great Western rhwng Llundain a Bryste. Adeiladodd nifer o longau ager; yn cynnwys yr S.S. Great Britain a'r Great Eastern.
Bu'n gyfrifol am nifer o brosiectau peiriannol yn ne Cymru.