Brwydr Afon Rhymni
brwydr rhwng Caradog ap Gruffudd o Wynllwg a'r Normaniaid
Brwydr rhwng Caradog ap Gruffudd o Wynllŵg a'r Normaniaid oedd Brwydr Afon Rhymni a ymladdwyd ger Caerdydd yn 1071.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 1071 |
Rhan o | Ymosodiad y Normaniaid ar Gymru |
Cysylltir gyda | Caradog ap Gruffudd, Normaniaid |
Lleoliad | Caerdydd |
Gwladwriaeth | Cymru |
Rhanbarth | Gwynllŵg |
Gwent a Gwynllŵg oedd cadarnle teulu Caradog, a llwyddodd i ychwanegu Morgannwg atynt. Mae'n ymddangos yn y cofnodion hanesyddol am y tro cyntaf yn 1065. Roedd Harold Godwinson, wedi ei fuddugoliaeth dros Gruffudd ap Llywelyn, wedi dechrau adeiladu tŷ hela ym Mhorth Sgiwed. Ymosododd Caradog arno a'i ddinistrio, ac yna anrheithio'r ardal.
Aeth Caradog ati fel lladd nadroedd i geisio efelychu ei dad a'i daid trwy ychwanegu Deheubarth at ei deyrnas. Yn 1072 (neu 1071) gorchfygodd frenin Deheubarth, Maredudd ab Owain, mewn brwydr ger Afon Rhymni a'i ladd.