Maredudd ab Owain

brenin Deheubarth

Roedd Maredudd ab Owain (bu farw 999) yn frenin Gwynedd a Deheubarth. Llwyddodd i sefydlu ei awdurdod dros y rhan fwyaf o Gymru, ac eithrio'r de-ddwyrain.[1]

Maredudd ab Owain
Ganwyd938 Edit this on Wikidata
Bu farw999 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Deheubarth, Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
TadOwain ap Hywel Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Llywelyn ap Merfyn ap Rhodri Mawr Edit this on Wikidata
PlantAngharad ferch Meredydd Edit this on Wikidata
Teyrnas Maredudd ab Owain ar ei eithaf (glas).

Bywgraffiad golygu

Roedd Maredudd yn fab i Owain ap Hywel Dda, brenin Deheubarth. Pan aeth Owain yn rhy hen i arwain mewn brwydr, cymerodd Maredudd ei le, ac yn 986 llwyddodd i gipio Gwynedd o ddwylo Cadwallon ab Ieuaf. Roedd Gwynedd wedi bod yn rhan o derynas ei daid, Hywel Dda ac mae'n debyg fod y teulu yn parhau i'w hawlio. Ar farwolaeth Owain yn 988 daeth Maredudd yn frenin Deheubarth hefyd. Efallai fod y cyfan o Gymru heblaw Gwent a Morgannwg yn rhan o'i deyrnas.[1]

Mae cofnod amdano yn ymosod ar safleoedd gwŷr Mersia ar hyd y ffin a chofnodir hefyd ei fod wedi talu pris o geiniog y pen i ryddhau nifer o'i ddeiliaid oedd wedi eu cymryd yn garcharorion yn ymosodiadau'r Llychlynwyr. Roedd ymosodiadau y Daniaid yn broblem barhaus yn ystod teyrnasiad Maredudd. Yn 987 ymosododd y Daniad Godfrey Haroldson ar Ynys Môn gan ladd mil o wŷr a dwyn dwy fil ymaith yn garcharorion.[1]

Bu Maredudd farw yn 999 ac mae'n cael ei ddisgrifio ym Mrut y Tywysogion fel "brenin mwyaf clodfawr y Brutaniaid".[2] Yn dilyn ei farwolaeth enillwyd gorsedd Gwynedd yn ôl i linach Idwal Foel gan Cynan ap Hywel.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
  2. Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20. (Caerdydd, 1941), tud. 13a.
Rhagflaenydd:
Cadwallon ab Ieuaf
Brenin Gwynedd
986999
Olynydd:
Cynan ap Hywel
Rhagflaenydd:
Owain ap Hywel
Brenin Deheubarth
987999
Olynydd:
Edwin ab Einion
a Cadell ab Einion