Caradog ap Gruffudd

teyrn a tywysog

Roedd Caradog ap Gruffudd ap Rhydderch (bu farw 1081) yn dywysog Gwent a fu'n ymdrechu am rai blynyddoedd i ychwanegu Deheubarth at ei deyrnas.

Caradog ap Gruffudd
Ganwyd11 g Edit this on Wikidata
Bu farw1081 Edit this on Wikidata
Brwydr Mynydd Carn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
Swyddtywysog Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Rhydderch Edit this on Wikidata
PlantOwain Wan Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd Caradog yn ŵyr i Rhydderch ab Iestyn oedd wedi llwyddo i gipio gorsedd Deheubarth am gyfnod cyn ei farwolaeth yn 1033. Roedd tad Caradog, Gruffudd ap Rhydderch hefyd wedi bod yn frenin Deheubarth am gyfnod cyn cael ei yrru allan a'i ladd gan Gruffudd ap Llywelyn, a ddaeth yn frenin y rhan fwyaf o Gymru.

Gwent a Gwynllŵg oedd cadarnle'r teulu, ac ymddengys fod Caradog wedi llwyddo i ychwanegu Morgannwg atynt. Mae'n ymddangos yn y cofnodion hanesyddol am y tro cyntaf yn 1065. Roedd Harold Godwinson, wedi ei fuddugoliaeth dros Gruffudd ap Llywelyn, wedi dechrau adeiladu tŷ hela ym Mhorth Sgiwed. Ymosododd Caradog arno a'i ddinistrio, ac yna anrheithio'r ardal.

Aeth Caradog ati fel lladd nadroedd i geisio efelychu ei dad a'i daid trwy ychwanegu Deheubarth at ei deyrnas. Yn 1072 (neu 1071) gorchfygodd frenin Deheubarth, Maredudd ab Owain, mewn brwydr ger Afon Rhymni (Brwydr Afon Rhymni) a'i ladd. Yn 1078 enillodd fuddugoliaeth arall dros Rhys ab Owain oedd wedi dilyn Maredudd ar orsedd Deheubarth, a'i ladd yntau. Erbyn 1081 yr oedd wedi gorfodi brenin newydd Deheubarth, Rhys ap Tewdwr i geisio nodded yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Newidiwyd y sefyllfa pan laniodd Gruffudd ap Cynan o Iwerddon, i geisio cipio gorsedd Gwynedd oddi wrth Trahaearn ap Caradog. Mewn cyfarfod rhwng Rhys ap Tewdwr a Gruffudd ap Cynan yn eglwys gadeiriol Tyddewi, gwnaethant gynghrair gyda bendith yr esgob.

Ymatebodd Caradog trwy wneud cynghrair a brenin Gwynedd, Trahaearn ap Caradog. Cyfarfu'r ddwy blaid ym Mrwydr Mynydd Carn, tua taith diwrnod o Dyddewi. Lladdwyd Caradog a Trahaearn yn y frwydr yma. Gadawodd Caradog fab, Owain ap Caradog, a fodlonodd ar deyrnasu ar diroedd Gwynllŵg ac a sefydlodd linach arglwyddi Caerllion.

Cyfeiriadau golygu

  • John Edward Lloyd, A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (Llundain, 1911), tt. 372-3, 377, 384-5, 393
  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)