Brwydr Cefn Carnedd
brwydr fawr rhwng yr Ordoficiaid o ogledd-orllewin Cymru a'r Rhufeiniaid
Brwydr fawr rhwng yr Ordoficiaid o ogledd-orllewin Cymru a'r Rhufeiniaid oedd Brwydr Cefn Carnedd[1], a ymladdwyd yn 51 OC rhwng Caersws a Llanidloes, yn ôl pob tebyg. Arweinydd y brodorion oedd Caradog, a bu raid iddo ffoi am ei fywyd o faes y gad gan droi at Cartimandua, brenhines y Brigantes, i geisio nodded. Trosglwyddodd Cartimandua ef yn garcharor i'r Rhufeiniaid.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 51 |
Rhan o | Llwythau Celtaidd Cymru, Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru |
Cysylltir gyda | Ordoficiaid, Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru |
Lleoliad | Powys |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Reference Wales gan John May, Gwasg dinefwr, 1994; tudalen 259