Llwythau Celtaidd Cymru
Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd gennym ynghylch Llwythau Celtaidd Cymru yn deillio o’r cyfnod wedi i’r Rhufeiniaid gyrraedd i’r diriogaeth sy’n ffurfio Cymru fodern tua 48 O.C. Ni wyddom pa mor hir roedd y llwythau hyn wedi bodoli cyn y cyfnod Rhufeinig.
Ymddengys i’r Rhufeiniaid goncro rhai o’r llwythau, megis y Demetae a’r Deceangli heb lawer o drafferth, ond bu’r Silwriaid a’r Ordoficiaid yn brwydro’n hir i amddiffyn eu hanibyniaeth, gan ennill nifer o fuddugoliaethau dros filwyr Rhufeinig. Cymerodd 30 mlynedd cyn i’r llywodraethwr Agricola orchfygu’r Ordoficiaid yn derfynol yn 78 a dwyn y diriogaeth gyfan dan lywodraeth Rhufain.
Y llwythau mae cofnod amdanynt oedd:
- Y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru. Wedi I’r Rhufeiniaid eu gorchfygu crëwyd tref Venta Silurum (Caerwent heddiw) yn ganolfan iddynt.
- Y Demetae yn y de-orllewin. Credir bod enw Dyfed yn dod o enw’r llwyth yma. Roedd eu canolfan hwy ym Maridunum (Caerfyrddin heddiw)
- Yr Ordoficiaid yng nghanolbarth a rhan o ogledd-orllewin Cymru. Daw’r enw 'Dinorwig', a welir yn yr enw lle Porth Dinorwig ac enw'r hen fryngaer Dinas Dinorwig yng Ngwynedd, o enw’r llwyth yma. Hyd y gwyddir, nid oedd ganddynt ganolfan.
- Y Gangani ar benrhyn Llŷn. Efallai eu bod yn is-lwyth o’r Ordoficiaid.
- Y Deceangli yn y gogledd-ddwyrain (Sir Ddinbych a Sir y Fflint heddiw). Daw’r enw Tegeingl o enw’r llwyth yma.
Mae’n bosibl fod ychydig o diriogaeth y Cornovii , oedd yn bennaf yng nghanolbarth Lloegr, yn ymestyn dros y ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr. Credir fod enw’r llwyth yma wedi goroesi yn yr enw Llanfair-yng-nghornwy, er bod y pentref yma yng ngogledd Ynys Môn ymhell o diriogaeth y llwyth.
Cyfeiria Iŵl Cesar wrth roi hanes ei ymgyrch i dde-ddwyrain Prydain at lwyth o'r enw Segontiaci yn gyrru cenhadon ato i ildio iddo wedi ei fuddugoliaeth dros y Trinovantes. Mae rhai ysgolheigion wedi ceisio cysylltu enw'r llwyth yma a Segontium, y gaer Rufeinig ddiweddarach ger Caernarfon, ond nid ymddengys bod unrhyw dystiolaeth bellach i gefnogi hyn.
Llwythau Celtaidd Cymru | ||
---|---|---|
Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid | | ||
Gwelwch hefyd: Y Celtiaid |