Brwydr Edgecote Moor

Un o frwydrau Rhyfel y Rhosynnau oedd Brwydr Edgecote Moor neu Frwydr Banbri a ymladdwyd ar 26 Gorffennaf 1469 rhwng Richard Neville, 16ed Iarll Warwick ac Edward IV; gyda Richard yn cipio Coron Lloegr. Roedd Richard a George Plantagenet (brawd y brenin) wedi cynllwynio'r frwydr ers peth amser; roedd Warwick yn anhapus â'r dylanwad oedd gan deulu'r Woodville (teulu yng nghyfraith y brenin) ar Edward IV. Roedden nhw hefyd yn anfodlon gyda'r grym a'r arian a roddodd y brenin i William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469).

Brwydr Edgecote Moor
Enghraifft o:brwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad26 Gorffennaf 1469 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfeloedd y Rhosynnau Edit this on Wikidata
LleoliadSwydd Northampton Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthChipping Warden and Edgcote, Culworth, Thorpe Mandeville Edit this on Wikidata
Map yn dangos y prif frwydrau
Wakefield
St. Albans
Ludford Bridge
Mortimer's Cross
Northampton
Llundain
Harlech
Kingston upon Hull
Berwick upon Tweed
Worksop
Efrog
Calais
Coventry
Caer
– Brwydr Wakefield; – brwydrau eraill;
– mannau eraill

Llysenw un o gapteiniaid Clarence oedd 'Robin of Redesdale'.

Lleoliad

golygu

Roedd maes y gad 6 milltir (9.7 km) i'r gogledd-ddwyrain o Banbury, yng ngogledd Swydd Rydychen; saif heddiw ym mhlwyf Chipping Warden ac Edgcote, ar y ffin rhwng Swydd Warwick a Swydd Northampton. Yr adeg honno, fodd bynnag, roedd y rhyd ar afon Cherwell, sef canolbwynt y frwydr, yn Swydd Northampton.

Canlyniad

golygu

Daliwyd William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) a'i frawd Syr Richard Herbert a dienyddiwyd y ddau'n gyhoeddus trannoeth y frwydr a iarll Devon y diwrnod wedyn.[1]

Awgryma'r bardd Guto'r Glyn mewn cerdd a elwir yn 'marwnad i Herbert' fod Stafford wedi dianc am ei fywyd o faes y gad, a gorfoledda'r bardd yn y ffaith na fu byw yn hir wedyn:

Arglwydd difwynswydd Defnsir
A ffoes – ni chafas oes hir!

Ystyr hyn yw: 'Ffoi a wnaeth arglwydd Dyfnaint, di-elw ei wasanaeth – ni chafodd oes hir!'[2]

Yn yr un gerdd, cymhara Guto'r frwydr â 'Dawns Angau':

Dawns o Bowls! Doe'n ysbeiliwyd, 
Dwyn yr holl dynion i'r rhwyd. 
Dawns gwŷr Dinas y Garrai, 
Dawns yr ieirll: daw'n nes i rai! 
Duw Llun y bu waed a lladd, 
Dydd amliw, diwedd ymladd. 
Duw a ddug y dydd dduw Iau 
Iarll Dwywent a'r holl Deau. 

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Buckinghams Retinue". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-07. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. gutorglyn.net; Archifwyd 2022-06-30 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Chwefror 2017.