Brwydr Llyn Trasimene

Ymladdwyd Brwydr Llyn Trasimene ar 24 Mehefin 217 CC yn Umbria yng nghanolbarth yr Eidal, rhwng byddin Gweriniaeth Rhufain dan y conswl Gaius Flaminius Nepos a byddin Carthago dan Hannibal. Roedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Pwnig, ac yn un o fuddugoliaethau mwyaf Hannibal.

Brwydr Llyn Trasimene
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Mehefin 217 CC Edit this on Wikidata
Rhan oAil Ryfel Pwnig Edit this on Wikidata
LleoliadLlyn Trasimeno Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brwydr Llyn Trasimene

Ymladdwyd y frwydr ar lan ogleddol Llyn Trasimeno. Roedd byddin Rhufain o tua 40,000 yn symud tua'r dwyrain ar hyd glan y llyn, yn awchus am frwydr. Roedd yn fore niwlog, ac yn ddiarwybod i'r Rhufeiniaid, roedd Hannibal wedi cuddio ei fyddin o tua 50,000 yn y bryniau uwchben y llyn. Ymosodasant yn ddirybudd, gan ddal y Rhufeiniaid cyn iddynt fedru trefnu eu rhengoedd ar gyfer brwydr. Lladdwyd tua 15,000 o'r Rhufeiniaid, un ai yn y frwydr neu trwy foddi yn y llyn wrth geisio dianc, a chymerwyd tua 10,000 o garcharorion. Ymhlith y meirwon roedd Gaius Flaminius Nepos ei hun. Roedd colledion y Carthaginiaid yn llawer llai, rhwng 1,500 a 2,500.