Llyn Trasimeno

llyn yn yr Eidal

Llyn yn Umbria yng nghanolbarth yr Eidal yw Llyn Trasimeno neu Llyn Trasimene (Eidaleg: Lago Trasimeno). Saif 15 km i'r gorllewin o ddinas Periwgia, 258 medr uwch lefel y môr. Mae ei arwynebedd yn 128 km2, a'i ddyfnder yn 7 medr yn y man dyfnaf. Y trefi ger ei lan yw Tuoro sul Trasimeno, Passignano sul Trasimeno, Magione a Castiglione del Lago. Ef yw pedwerydd llyn yr Eidal o ran maint; dim ond Llyn Garda, Llyn Maggiore a Llyn Como sy'n fwy.

Llyn Trasimeno
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUmbria Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd128 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr258 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.14°N 12.1°E Edit this on Wikidata
Dalgylch396 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd16.1 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Llyn Trasimeno

Ceir tair ynys yn y llyn: Isola Maggiore, Isola Minore a Isola Polvese. Yn 217 CC, bu brwydr enwog, Brwydr Llyn Trasimene, ar lan ogleddol y llyn rhwng byddinoedd Gweriniaeth Rhufain a Carthago ger y llyn, pan ddinistriwyd byddin Rufeinig yn llwyr gan Hannibal.