Rupert, tywysog y Rhein
Milwr a llywodraethwr oedd Rupert, Breiniarll y Rhein, Dug Bafaria, Dug 1af Cumberland, Iarll 1af Holderness (Almaeneg: Ruprecht Pfalzgraf bei Rhein, Herzog von Bayern), KG, FRS (17 Rhagfyr 1619 – 29 Tachwedd 1682).
Rupert, tywysog y Rhein | |
---|---|
Ganwyd | 17 Rhagfyr 1619 (yn y Calendr Iwliaidd) Prag |
Bu farw | 29 Tachwedd 1682 Llundain |
Galwedigaeth | engrafwr, gwleidydd, dyfeisiwr, arweinydd milwrol, llyngesydd, ysgythrwr |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig |
Adnabyddus am | The Great Executioner |
Tad | Frederick V, Elector Palatine |
Mam | Elizabeth Stuart, brenhines Bohemia |
Partner | Frances Bard, Margaret Hughes |
Plant | Dudley Bard, Ruperta Hughes |
Perthnasau | Mari, brenhines yr Alban |
Llinach | House of Palatinate-Simmern, Tŷ Wittelsbach |
Gwobr/au | Urdd y Gardas, Royal Fellow of the Royal Society |
Cafodd ei eni ym Mhrâg,[1] fel trydydd fab yr Etholydd Palatin Frederick V ac Elizabeth, merch Iago, brenin Lloegr a'r Alban. Yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr enillodd nifer o frwydrau i'r Brenhinwyr tra'n arwain y marchfilwyr, ond cafodd ei drechu ym Mrwydr Marston Moor (1644) ac ildiodd Bryste i'r Seneddwyr. Am hynny cafodd ei ddiswyddo gan y Brenin Siarl I. Yn hwyrach cafodd Rupert ei alltudio gan y Senedd ac arweiniodd llynges fechan y Brenhinwyr nes iddi gael ei gorchfygu gan Robert Blake ym 1650. Bu Rupert yn ffoi i India'r Gorllewin cyn iddo ddychwelyd i Ewrop ym 1653 a byw yn yr Almaen hyd yr Adferiad.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ National Gallery of Ireland; David Oldfield (1992). Later Flemish Paintings in the National Gallery of Ireland: The Seventeenth to Nineteenth Centuries (yn Saesneg). National Gallery of Ireland. t. 42. ISBN 978-0-903162-50-0.
- ↑ Chambers Dictionary of World History (Caeredin, Chambers, 2004), t. 719.