Brwydr Nant Carno

ymladdwyd Brwydr Nant Carno yn 950 yn Arwystli, Gwynedd a Phowys.

Ymladdwyd Brwydr Nant Carno yn 950 yn Arwystli, Gwynedd a Phowys.

Brwydr Nant Carno
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Map

Ar farwolaeth Hywel Dda yn 950 hawliodd Ieuaf ab Idwal ac Iago ab Idwal orsedd Gwynedd, gan ennill buddugoliaeth dros feibion Hywel yng Ngwynedd mewn brwydr o'r enw Brwydr Nant Carno a'u gyrru allan o Wynedd.

Parhaodd yr ymladd rhwng y ddau deulu fodd bynnag, gyda Iago ac Ieuaf yn arwain cyrch i'r de a chyrraedd cyn belled a Dyfed yn 952 a meibion Hywel yn ymosod ar y gogledd cyn belled a Dyffryn Conwy yn 954 cyn colli brwydr yn Llanrwst a chael eu hymlid yn ôl i Geredigion.

Effaith y frwydr hon, felly, oedd dadwneud cwlwm y genedl a unwyd gan Hywel.

Cyfeiriadau golygu