Ieuaf ab Idwal
Roedd Ieuaf ab Idwal (teyrnasai 950 - 969) yn frenin rhan o deyrnas Gynedd ac efallai rhan o Bowys.
Ieuaf ab Idwal | |
---|---|
Ganwyd | 915 |
Bu farw | 988, 969 |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Tad | Idwal Foel |
Mam | Anhysbys |
Plant | Hywel ab Ieuaf, Cadwallon ab Ieuaf, Maig ab Ieuaf |
Bywgraffiad
golyguMab i Idwal Foel oedd Ieuaf, a'i enw mewn gwirionedd oedd Idwal ab Idwal, ond i osgoi cymysgu rhyngddo ef a'i dad, mae'r brutiau'n cyfeirio ato fel Ieuaf.[1]
Ar farwolaeth Idwal Foel yn 942 buasai Ieuaf wedi disgwyl etifeddu Gwynedd gyda'i frawd Iago ab Idwal. Fodd bynnag achubodd Hywel Dda, brenin Deheubarth, y cyfle i feddiannu Gwynedd a gyrru'r ddau frawd ar ffo.[2]
Dim ond ar farwolaeth Hywel yn 950 y gallodd Ieuaf ac Iago hawlio gorsedd Gwynedd, gan ennill buddugoliaeth dros feibion Hywel mewn brwydr yn Nant Carno a'u gyrru allan o Wynedd. Parhaeodd yr ymladd rhwng y ddau deulu fodd bynnag, gyda Iago ac Ieuaf yn arwain cyrch i'r de a chyrraedd cyn belled a Dyfed yn 952 a meibion Hywel yn ymosod ar y gogledd cyn belled a Dyffryn Conwy yn 954 cyn colli brwydr yn Llanrwst a chael eu hymlid yn ôl i Geredigion.[2]
Bu cweryl rhwng meibion Idwal yn ddiweddarch, a chymerwyd Ieuaf yn garcharor gan Iago yn 969. Bu Iago'n frenin Gwynedd ar ei ben ei hun hyd 979 pan gipiodd mab Ieuaf, Hywel ab Ieuaf, yr orsedd oddi wrth ei ewythr. Yn ôl J.E. Lloyd, bu Ieuaf yng ngharchar hyd 988, sy'n awgrymu fod ei fab wedi ei gadw'n garcharor.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Edward Lloyd (1911). A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
- ↑ 2.0 2.1 2.2 John Edward Lloyd (1911). A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).